Cymro o Ferthyr Tudful yn cipio teitl Love Island 2021
24/08/2021
Mae Cymro yn un o enillwyr Love Island 2021.
Cafodd Liam Reardon o Ferthyr Tudful, a Millie Court o Essex eu cyhoeddi'n enillwyr y gyfres yn y ffeinal nos Lun.
Ar ôl ennill, penderfynodd y pâr i rannu'r wobr ariannol o £50,000 rhyngddynt.
Yn gynharach yn y bennod, gofynnodd Liam a oedd Millie am fod yn gariad iddo yn ystod sgwrs fyw gyda'r cyflwynydd Laura Whitmore, yn ôl WalesOnline.
Dyma'r tro cyntaf i berson o Gymru ennill y gyfres ers Amber Davies yn 2017.
Darllenwch y stori'n llawn yma.