‘Annhebygol’ i’r UDA aros yn Afghanistan tu hwnt i 31 Awst
Mae’r Gweinidog Amddiffyn wedi dweud ei bod hi’n “annhebygol” y bydd milwyr yn aros yn Afghanistan tu hwnt i 31 Awst wrth i’r sefyllfa yno ddod yn “fwy a mwy peryglus”.
Dywedodd Ben Wallace AS wrth Sky News fod y perygl i ddiogelwch yn cynyddu wrth i amser fynd yn ei flaen.
“Fe hoffai grwpiau terfysgol fel ISIS gael eu gweld yn hel y Gorllewin o Afghanistan – fe fyddai hynny yn bwydo eu naratif a’u huchelgeisiau,” meddai.
Roedd Mr Wallace yn siarad wrth i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, gadeirio cynhadledd frys gyda gwledydd y G7, lle bydd trafodaethau yn cynnwys y sefyllfa yn Afghanistan.
Caiff y rhain eu cynnal yn sgil golygfeydd tyngedfennol yn Kabul, lle mae gwledydd gan gynnwys yr UDA a'r DU yn brysio i geisio symud pobl o'r wlad.
Mae disgwyl i Mr Johnson geisio darbwyllo Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden i ymestyn y dyddiad lle bwriedir i holl filwyr yr UDA adael y wlad – sef 31 Awst.
Ond mae’r Taliban eisoes wedi dweud wrth Sky News y bydd goblygiadau petai’r dyddiad hwn yn cael ei ymestyn
Mae dros 2,000 o bobl yn Afghanistan wedi gadael y wlad trwy gymorth milwyr Prydeinig dros y 24 awr ddiwethaf, gyda’r Gweinidog Amddiffyn yn nodi fod digon o awyrennau i’w cludo.
Y broblem, meddai, yw ceisio cludo pobl o ardaloedd eraill o’r wlad, trwy dollfeydd y Taliban, ac i Kabul.
Darllenwch y stori yn llawn yma.