Llifogydd Ewrop ‘bron i ddeg gwaith gwaeth’ oherwydd argyfwng hinsawdd
Roedd y glaw a fu’n gyfrifol am lifogydd dinistriol yn Ewrop fis diwethaf rhwng 1.2 a naw gwaith fwy tebygol o ddigwydd oherwydd yr argyfwng hinsawdd, yn ôl ymchwil newydd.
Fe welodd ardaloedd yn yr Almaen, Gwlad Belg a’r Swistir lefelau o law na welwyd o’r blaen ym mis Gorffennaf, gan achosi o leiaf 220 o bobl i golli eu bywydau.
Dywed ymchwil gan Ganolfan Hinsawdd y Groes Goch fod y cawodydd hyn nawr rhwng 3-19% yn drymach oherwydd cynhesu byd eang sydd wedi ei achosi gan bobl.
Er yn nodi fod y llifogydd yn “ddigwyddiad prin”, dywedodd un o awduron yr ymchwil a chyfarwyddwr y ganolfan, Maarten van Aalst ei fod yn gobeithio y bydd y canfyddiadau yn “agoriad llygad”.
Cafodd yr ymchwil ei gynnal gan 39 o wyddonwyr gan ddefnyddio cofnodion tywydd Ewrop a modelau hinsawdd.
Darllenwch y stori yn llawn yma.