Cynnydd mewn ymwelwyr yn rhoi 'pwysau sylweddol' ar Yr Wyddfa
24/08/2021
Mae niferoedd uchel o ymwelwyr yn rhoi pwysau sylweddol ar amgylchedd a bywyd gwyllt Yr Wyddfa, medd gwarchodwyr y mynydd.
Mae disgwyl i fwy na 700,000 o bobl gerdded i gopa'r Wyddfa eleni - cynnydd o'r 500,000 o ymwelwyr yn 2018 a bron i ddwywaith yn fwy na'r niferoedd yn 2012.
Dywedodd Cymdeithas Eryri wrth North Wales Live fod llanastr ac erydiad wedi dod yn "eithaf sylweddol" eleni.
Yn ôl Tîm Achub Mynyddoedd Llanberis, mae disgwyl i fis Awst fod y prysuraf o ran galwadau i'r tîm o wirfoddolwyr ar gofnod.
Darllenwch y manylion yn llawn yma.
Llun: Hefin Owen