Dyn wedi ei anafu’n ddifrifol wedi gwrthdrawiad yn Abertawe
23/08/2021
Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn gael ei anafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd y B4603 ar Ffordd Ynysmeudwy am 09:05 ddydd Sadwrn, 20 Awst.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys dau gerbyd sef car Renault Twingo glas a char Citroen C1 oren.
Dywedodd yr heddlu bod dyn 23 oed yn parhau i fod yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau camera dashfwrdd o’r gwrthdrawiad neu o’r car Renault Twingo yn cael ei yrru, i gysylltu â nhw, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 294283.