Menyw wedi dioddef ‘anafiadau difrifol’ wedi gwrthdrawiad yn Sir Benfro
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i ddynes ddioddef anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad yn Sir Benfro ddydd Gwener.
Digwyddodd y gwrthdrawiad, oedd yn cynnwys Vauxhall Corsa du a lori sment Daf las, ar yr A478 ger Penblewin, Narberth am tua 17:00.
Fe gafodd y fenyw oedd yn dreifio’r Vauxhall Corsa ei chludo gydag Ambiwlans Awyr i’r ysbyty yng Nghaerdydd, gyda’r heddlu yn dweud ei bod wedi dioddef “anafiadau difrifol”.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: “Hoffai swyddogion glywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a oedd yn gyrru ar hyd yr A478 rhwng cylchfan Penblewin a Narbeth tua adeg y digwyddiad.”
Mae’r heddlu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â’r llu gan ddefnyddio rhif cyfeirnod DP-20210820-342.