Galw am weithio ar frys i atgyweirio ffordd yn ardal Wrecsam

Galw am weithio ar frys i atgyweirio ffordd yn ardal Wrecsam
Mae gwleidyddion yn ardal Wrecsam yn galw am weithio ar frys i atgyweirio ffordd sydd wedi bod ar gau ers mis Ionawr 2021.
Cafodd y B5605 yn Newbridge ei chau ar ôl i dirlithriad achosi difrod sylweddol i’r ffordd.
Digwyddodd y tirlithriad o ganlyniad i lifogydd a gafodd eu hachosi gan storm Christoph, ond doedd y prosiect i’w drwsio ddim yn gymwys am gyllid o’r gronfa gymorth llifogydd gan nad oedd y digwyddiad wedi effeithio ar eiddo.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod yn trafod ffyrdd eraill o ariannu’r gwaith gyda Chyngor Wrecsam, gydag amcangyfrif cynnar gan y cyngor yn awgrymu gallai'r gwaith gostio £1.5miliwn.
Mae Aelod Senedd Cymru, Llyr Gruffydd, yn rhybuddio gallai'r gwaith gymryd hyd at dair blynedd i’w gwblhau.
‘Anghyfleustra eithriadol’
Dywedodd Mr Gruffydd: “Maen nhw'n dweud bod pres ddim yn addas ar gyfer cael ei glustnodi i hwn.
“Wel, llifogydd sydd wedi achosi'r difrod wrth gwrs. Ac maen nhw hefyd yn dweud bod y pres ar gyfer trwsio ffyrdd eisoes wedi clustnodi ar gyfer y flwyddyn ariannol yma ac mae hynny yn ei dro yn golygu bydd ddim hyd yn oed posib cyflwyno cais ar ran y cyngor lleol tan Ebrill 2022.
“Felly 'da ni'n edrych ar gyfnod o hyd at dair blynedd o anghyfleustra eithriadol i drigolion lleol.”
Dywedodd Eleanos Burnham, sy’n gyn-wleidydd ac yn byw yn Y Waun: “Mae o’n cael effaith drychinebus o bryd i’w gilydd oherwydd wrth gwrs, mae gynno ni’n ffordd osgoi ond ambell i dro maen nhw’n cau honno dros nos, a dros nos yn golygu o wyth o gloch y nos tan chwech o gloch y bore.
“Ac wrth gwrs, mae’r traffig yn dipyn rŵan.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd cais Cyngor Wrecsam i'r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd yn aflwyddiannus gan mai ariannu gwaith atgyweirio sydd o fudd i eiddo yn unig mae'r rhaglen.
"Rydym nawr yn gweithio gyda Chyngor Wrecsam i ddod o hyd i ffordd arall o ariannu'r prosiect."