Pryder na fydd pigiad y ffliw mor effeithiol y gaeaf hwn
Mae pryderon na fydd pigiad y ffliw mor effeithiol y gaeaf hwn gan nad yw labordai wedi gallu casglu'r data angenrheidiol yn ystod pandemig Covid-19.
Mae'r pigiad yn cael ei lunio i amddiffyn yn erbyn sawl math o'r feirws.
Ond mae cwmni fferyllol sy'n datblygu brechlynnau yn poeni y gallai'r diffyg data ar y ffliw sydd wedi ei gasglu yn ystod pandemig Covid-19 arwain at wneud y pigiad yn aneffeithiol yn erbyn rhai amrywiolion.
Roedd gostyngiad o 62% o fewnforiadau o samplau o'r ffliw oherwydd bod gwledydd wedi gorfod cau eu ffiniau yn sgil y pandemig, yn ôl The Independent.
Mae pryderon y gallai hyn, yn ogystal ag imiwnedd naturiol is i'r ffliw a lefelau uchel o Covid-19, arwain at bwysau ar y GIG.
Darllenwch y stori'n llawn yma.