Newyddion S4C

O leiaf 22 wedi marw mewn llifogydd yn Tennessee

The Guardian 23/08/2021
Llifogydd Tennessee

Mae o leiaf 22 o bobl wedi marw ar ôl i law trwm achosi llifogydd mewn ardaloedd yn Tennessee, UDA.

Mae criwiau achub wedi bod yn ceisio dod o hyd i ddioddefwyr ar ôl i dai gael eu dymchwel, gyda degau yn parhau i fod ar goll.

Fe wnaeth y llifogydd mewn ardaloedd gwledig ddydd Sadwrn ddinistrio ffyrdd, tyrau ffonau symudol a llinellau ffôn, gan adael pobl methu â chysylltu gyda theulu ac anwyliaid.

Mae nifer o bobl sydd ar goll yn byw mewn cymunedau ble gododd lefel y dŵr gyflymaf, yn ôl Siryf sir Humphreys, Chris Davis.

Ymhlith y meirw mae gefeilliaid ifanc a gafodd eu llusgo o freichiau eu tad, adrodda The Guardian.

Mae Arlywydd yr UDA, Joe Biden, wedi dweud ei fod yn "cydymdeimlo yn fawr" gyda'r rhai sydd wedi eu heffeithio.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.