Galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried y ddeddf cŵn peryglus

Galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried y ddeddf cŵn peryglus
Mae elusen anifeiliaid yn galw ar Lywodraeth y DU i ail ystyried y ddeddf cŵn peryglus
Tri deg mlynedd ers i'r ddeddf ddod i rym, mae'r Gymdeithas dros Atal Creulondeb i Anifeiliaid yn dweud bod miloedd o gŵn diniwed wedi cael eu difa.
Mae'r elusen yn dweud bod cŵn yn cael eu difa ar sail y ffordd y maent edrych, yn hytrach na'u hymddygiad.
Mae Llywodraeth y DU yn pwysleisio mai cael eu bridio ar gyfer ymladd oedd y cŵn sydd wedi eu gwahardd.
Pan ddaeth y ddeddf i rym ym 1991, roedd pryder ar y pryd am ymosodiadau ar blant.
Ond, yn ôl cymdeithas RSPCA, mae mwy o achosion o frathu wedi bod ers cyflwyno'r ddeddf, a chŵn yn cael eu difa heb fod angen.
Mae pedwar math o gi wedi ei wahardd ers i'r ddeddf ddod i rym, ond mae Ifan Lloyd, sydd wedi bod yn filfeddyg ers dros 30 o flynyddoedd, yn cytuno bod angen edrych ar y gyfraith o’r newydd.
Dywedodd Dr Lloyd, Is-lywydd Cymru, Cymdeithas Filfeddygol Prydain: "Mae fe'n rhoi'r camsyniad i bobl falle, mai dyna'r unig fridie peryglus sydd 'na.
"A beth i ni'n teimlo fel cymdeithas yw bydd e'n fwy addas bod ni'n edrych ar y deed not the breed.
"Hynny yw edrych ar sut mae'r person neu'r perchennog yn edrych ar ôl y ci yn hytrach na'r breed ei hunain."
"Ond be sy'n bwysig yw, mae'r ci yna yn adlewyrchiad o'r perchennog a sut mae'r ci yn cael ei edrych ar ei ôl.
"So mae ishe bod pobl yn bod yn gyfrifol, bod nhw'n cael ei haddysgu a bod y ci yn cael ei reoli mewn modd sy'n adlewyrchu'n dda ar y ffordd mae fe'n bihafio."