Gwasanaethau brys yn ymateb i dân yng Nghaerfyrddin
22/08/2021
Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymateb i dân ynghanol Caerfyrddin.
Mae pobl leol wedi cael eu cynghori i gadw ffenestri a drysau ynghau wrth i ddiffoddwyr tân ymateb i'r digwyddiad ar Heol yr Hen Orsaf.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y ffordd wedi ei chau.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Mae'r gwasanaethau brys yn delio gyda digwyddiad ac mae oedi i ddisgwyl. Diolch am eich amynedd."
Llun: Google