Cymru i gynnal gêm agoriadol Euro 2028
Mae UEFA wedi cyhoeddi mai Cymru fydd yn cynnal gêm agoriadol pencampwriaeth Euro 2028.
Fe fydd Stadiwm Principality Caerdydd yn gartref i'r gêm agoriadol ar 9 Mehefin, ac fe fydd Stadiwm Wembley yn Llundain yn cynnal y ffeinal ar 9 Gorffennaf, medden nhw.
Fe fydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal mewn stadia yng Nghymru, Yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon a Lloegr.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens ei fod yn “newyddion gwych”.
“Mae Cymru ar fin elwa o’r sylw a nifer yr ymwelwyr sy’n dod gyda chynnal digwyddiad mawr,” meddai.
“Rwy’n falch bod Llywodraeth y DU wedi cefnogi’r cais llwyddiannus i ddod â’r Ewros yma ac rwy’n edrych ymlaen at yr atgofion gwych a fydd yn cael eu creu yma yng Nghymru.”
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod nhw’n buddsoddi hyd at £557 miliwn i gynnal y twrnamaint.
Dywedodd y Prif Weinidog, Keir Starmer: “Ewro 2028 UEFA fydd y digwyddiad chwaraeon mwyaf erioed i gael ei gynnal ar y cyd gan y DU ac Iwerddon.
“Fel cefnogwr pêl-droed gydol oes, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw cystadlaethau rhyngwladol fel hyn.
"Bydd y twrnamaint hwn yn dod â chefnogwyr o bob cwr o Ewrop i ddinasoedd pêl-droed fel Birmingham a Glasgow, yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i roi eu hesgidiau pêl-droed ymlaen, ac yn darparu biliynau mewn buddion economaidd."
