O leiaf 20 wedi marw mewn torfeydd ger maes awyr Kabul

Mae o leiaf 20 o bobl wedi marw yn y torfeydd ger maes awyr Kabul dros yr wythnos ddiwethaf, yn ôl Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU.
Mae torfeydd wedi casglu ger y maes awyr yn y gobaith o geisio ffoi o Afghanistan ar ôl i'r Taliban gymryd rheolaeth o'r wlad.
Daeth cadarnhad o'r marwolaethau ddydd Sul yn dilyn dyddiau o anrhefn yn y maes awyr, meddai The Independent.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod yr amgylchiadau yn parhau yn "eithriadol o heriol" ond eu bod yn "gwneud popeth" o fewn eu gallu i reoli'r sefyllfa'n ddiogel.
Darllenwch y stori'n llawn yma.