Corwynt Henri yn taro Efrog Newydd

Mae Efrog Newydd wedi cael ei tharo gan lifogydd, glaw trwm a mellt wrth i Gorwynt Henri hyrddio tuag at Ogledd Ddwyrain yr UDA.
Mae 55m o bobl yn wynebu rhybudd am stormydd, gyda'r Ganolfan Gorwynt Cenedlaethol yn rhybuddio y gall gwyntoedd hyrddio ar gyflymder o 80 milltir yr awr.
Fe gyrhaeddodd y tywydd garw yn hwyr ddydd Sadwrn, gyda llifogydd wedi dechrau dros nos.
Mae stad o argyfwng wedi ei gyhoeddi yn nhaleithiau Efrog Newydd a Connecticut, gyda cwmni Eversource, sy'n darparu trydan i 1.2m o gwsmeriaid yn Connecticut, wedi rhybuddio y gall rhwng 50% a 69% o'u cwsmeriaid golli pŵer am rhwng wyth a 21 diwrnod.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: @thot__tiana / Twitter