Lleiafrifoedd ethnig yn cael eu hamddifadu o addysg Gymraeg yng Nghaerdydd yn ôl adroddiad

Plant ysgol

Mae adroddiad newydd yn codi cwestiynau am ddyletswyddau cyfreithiol Cyngor Caerdydd mewn perthynas ag addysg Gymraeg.

Mae'r arbenigwr cyfreithiol Keith Bush, awdur yr adroddiad yn dweud bod teuluoedd o leiafrifoedd ethnig yn ne Caerdydd yn cael eu hamddifadu o addysg uwchradd Gymraeg am fod yr ysgolion wedi eu lleoli i'r gogledd o'r brifddinas.  

Ymgyrchwyr sydd eisiau sefydlu ysgol gyfun Gymraeg yn ne Caerdydd sydd wedi comisiynu'r adroddiad. 

Yn ôl Cyngor Caerdydd mae'r awdurdod yn "parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo manteision addysg ddwyieithog".  

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu bod dyletswydd ar gynghorau i roi yr un cyfleoedd i gael addysg Gymraeg i bobol o leiafrifoedd ethnig a grwpiau eraill. 

Dywedodd Keith Bush yn yr adroddiad: "Yr unig beth y gellir ei ddweud, ar sail y dystiolaeth rwyf wedi ei gweld, yw nad oes yna unrhyw le i gredu bod y cyngor wedi bod yn ymwybodol o berthnasedd Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus wrth wneud penderfyniadau mewn perthynas â lleoli ysgolion uwchradd Cymraeg yn y ddinas. 

"Er bod eu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfeirio at bwysigrwydd amlieithrwydd yng nghyd-destun dinas amlddiwylliannol, ni cheir unrhyw gyfeiriad at berthnasedd y ddyletswydd cydraddoldeb i benderfyniadau felly."

Ar hyn o bryd mae tair ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae'r rhain yng ngogledd y brifddinas. 

Deddf newydd y Gymraeg

Ond mae cymunedau Glanyrafon, Treganna, Grangetown, Tre-biwt, Bae Caerdydd ac ardaloedd cyfagos bellach yn galw ar Gyngor Caerdydd i sefydlu ysgol gydol oes Gymraeg yn agosach iddyn nhw. 

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas wedi dweud y bydd yn cyflwyno papur cabinet erbyn y Nadolig er mwyn dechrau'r broses o sefydlu ysgol uwchradd newydd yng Nghaerdydd.

Mewn cyfweliad gyda BBC Radio Cymru dywedodd Keith Bush ei fod wedi ei "synnu bod yr agwedd o gydraddoldeb ddim fel petai wedi cael unrhyw fath o sylw gan gyngor y ddinas oherwydd mae bob cyngor lleol o dan ddyletswydd statudol i hybu cydraddoldeb rhwng gwahanol grwpiau megis rhai sydd yn dod o leiafrifoedd ethnig."

Yn ôl Keith Bush mae'r system yn mynd i newid ar ôl i Lywodraeth Cymru yn ddiweddar basio Deddf y Gymraeg ac Addysg 2025. Mae'r ddeddf meddai yn mynnu bod twf yn narpariaeth addysg Gymraeg ar draws y wlad.

"Y disgwyliad yw bod cynghorau yn cynllunio i dyfu darpariaeth. Dyna beth yw'r agwedd traddodiadol ydy a oes angen, a oes digon o bobl yn gofyn am ysgol uwchradd arall. Ond y gwirionedd yw mae dyletswydd ar y cyngor i ddarparu mwy a mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg cynradd ac uwchradd," meddai wrth y BBC.

'Cymhwyster hanfodol' 

Dywedodd hefyd bod angen i bobl "ddechrau sylweddoli bod amddifadu pobl o addysg uwchradd Gymraeg yn mynd i gael oblygiadau economaidd, materol, galwedigaethol yn y Gymru sydd ohoni." 

Ychwanegodd y bydd yr iaith yn dod yn fwy amlwg ym mywyd pobl bob dydd os yw'r llywodraeth am gyrraedd y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"I fynd yn ôl i'r nod o dyfu siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, wel mae hyn yn rhan o broses lle mae'r Gymraeg yn dod yn fwy amlwg ym mywyd Cymru, ac yn y dyfodol fe fydd y gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ac i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymhwyster hanfodol yn fy marn i mwy a mwy yng Nghymru."

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod yn "parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo manteision addysg ddwyieithog a bydd yn blaenoriaethu'r ystod eang o ymrwymiadau a nodir yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) 2022-2031 a fydd yn gwneud pedwaredd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ymarferol, yn enwedig o ystyried y cwymp presennol yn y gyfradd genedigaethau."

'Digon o le' 

Mae'r llefarydd yn cyfeirio at sefydlu trydedd ysgol uwchradd Gymraeg Caerdydd yn 2012 a bod "digon o le yn y tymor canolig yn nhair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y brifddinas i gefnogi unrhyw ddisgyblion sydd eisiau dysgu drwy'r Gymraeg.

 "Mae addysg Gymraeg ar gyfer pob cymuned yng Nghaerdydd ac mae cynnydd wedi bod yn nifer y dysgwyr o leiafrifoedd ethnig sy'n mynychu ysgolion Cymraeg.

 "Mae'r Cyngor yn croesawu anogaeth yr Ymgyrch ar y mater hwn, a byddai'n awyddus i drafod rhai o'r heriau ymarferol sy'n bodoli yn y byrdymor, a sut y gellid eu goresgyn gyda'n gilydd."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.