Gorchymyn i gadw adar dan do o achos 'bygythiad sylweddol' ffliw adar
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gorchymyn i gadw dofednod ac adar caeth o dan do, a hynny o ganlyniad i "fygythiad sylweddol uchel" yn yr achosion cynyddol o ffliw adar ledled Prydain.
Fe fydd disgwyl i bawb sy'n cadw mwy na 50 o adar o unrhyw rywogaeth i'w cadw dan do o ddydd Iau'r wythnos hon ymlaen.
Bydd heidiau o lai na 50 o adar o unrhyw rywogaeth yn gorfod cael eu cadw dan do hefyd os yw eu hwyau yn cael eu gwerthu, oherwydd y risg uwch o drosglwyddo'r clefyd sy'n gysylltiedig â masnachu cynnyrch dofednod.
Nos Sul cyhoeddodd y llywodraeth fod math pathogenig iawn o ffliw adar wedi ei gadarnhau ger y Trallwng ym Mhowys, ac mae adroddiadau bod achosion yn Llyn Padarn yng Ngwynedd ac yn Sir Benfro yn ddiweddar hefyd.
Risg ar gynnydd
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies: "Rydym yn cadw golwg ar y mesurau sydd eu hangen. Ers i'r Parth Atal Ffliw Adar gael ei gyflwyno ddechrau'r flwyddyn, mae risg y clefyd wedi cynyddu eto yn ddiweddar, ac mae Cymru bellach yn wynebu risg uchel iawn o ffliw adar.
"Nid ydym wedi gwneud y penderfyniad ar chware bach, ond mae'n angenrheidiol i ddiogelu ein hadar a bywoliaeth ceidwaid dofednod Cymru.
"Rwy'n annog pob ceidwad adar i gydymffurfio â'r gofynion hyn a chynnal y safonau biodiogelwch uchaf. Rwy'n cydnabod y bydd hyn yn anodd, ond trwy weithredu nawr gallwn helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ac amddiffyn ein heidiau."
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine: "Rydym yn gweld cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o ffliw adar mewn adar cadw ac adar gwyllt.
"Yn wyneb y lefelau risg uchel iawn presennol, rydym bellach yn cyflwyno mesurau gorfodol i gadw adar dan do, a fydd yn effeithio ar Gymru gyfan.
"Rwy'n gwerthfawrogi'r effaith y mae'r mesurau hyn yn ei chael ar geidwaid, ac rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar am eu cydweithrediad i ddiogelu iechyd a lles eu hadar.
"Gall mesurau hyn i gadw adar dan do helpu i amddiffyn adar rhag y clefyd, ond ni ddylent gymryd lle hylendid a bioddiogelwch llym."