Disgwyl cadarnhad am orsaf niwclear newydd i Wylfa ar Ynys Môn

Wylfa, Cemaes, Ynys Môn
CC

Mae disgwyl cadarnhad y bydd gorsaf ynni niwclear newydd yn cael ei hadeiladu ar safle Wylfa ym Môn yn y dyddiau nesaf, yn ôl adroddiadau.

Mae Wylfa wedi bod yn geffyl blaen i fod yn gartref i un o'r adweithyddion bychan newydd yn y DU, ar ôl i sefydliad Great British Energy - Nuclear (GBE-N) brynu'r safle yn 2024.

Yr Wylfa a safle arall yn Oldbury-on-Severn yn Sir Gaerloyw yw'r ddau safle y mae GBE-N wedi dweud yn flaenorol ei fod yn eu hystyried ar gyfer datblygu adeithyddion niwclear bychan.

Ym mis Awst eleni roedd dyfalu mai i Wylfa y byddai'r gwaith yn dod wedi i hysbyseb am swydd ar gyfer Arweinydd Safle Wylfa ymddangos yn y wasg. 

Roedd yr hysbyseb yn nodi fod dealltwriaeth am gynllunio yng Nghymru a rheolau amgylcheddol yn fanteisiol, yn ogystal â bod yn rhugl yn y Gymraeg.

Yn ôl y adroddiadau, fe fydd cyhoeddiad am safle Wylfa'n cael ei wneud ddydd Iau.

'Cam mawr ymlaen'

Mewn ymateb, dywedodd Llinos Medi, aelod seneddol Ynys Môn dros Blaid Cymru: "Mae cyhoeddiad ar Wylfa wedi bod yn hir ddisgwyliedig, felly byddai’r cyhoeddiad hwn yn gam mawr ymlaen. 

"Mae’n adlewyrchu blynyddoedd o ymgysylltiad gan fusnesau lleol, arbenigwyr yn y diwydiant, a’r Cyngor lleol wrth dynnu sylw at botensial unigryw’r safle fel un o leoliadau gorau Ewrop ar gyfer ynni niwclear newydd. Rwy’n falch o fod wedi chwarae rhan wrth bwyso ar Lywodraeth y DU i gyrraedd y penderfyniad hwn.

"Rydym wedi bod yma sawl gwaith o’r blaen – felly bydd pobl Ynys Môn yn trin y stori hon yn ofalus nes i ni weld camau gweithredu pendant. Byddwn yn aros am fanylion pellach i weld sut y bydd y cyhoeddiad hwn yn sicrhau swyddi hirdymor o ansawdd uchel, ac yn sicrhau bod cadwyni cyflenwi lleol yn elwa o unrhyw ddatblygiad."
 
Ychwanegodd y gwleidydd lleol: "Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i gyflawni prosiect trawsnewidiol sy’n cryfhau diogelwch ynni ac yn elwa cymunedau lleol, gan barchu amgylchedd, diwylliant a’r iaith Gymraeg yr Ynys yn llawn. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio i sicrhau mai dyma’r prosiect mwyaf addas posibl."
 

Cynllun blaenorol

Fe wnaeth arolygwyr cynllunio argymell y dylid gwrthod y cynllun blaenorol gan gwmni Hitachi am orsaf niwclear ar y safle ym mis Mehefin 2019.

Roedd y cwmni eisoes wedi atal y gwaith ym mis Ionawr 2019 oherwydd pryderon am gostau, a’r methiant i ddod i gytundeb i ariannu’r prosiect gyda Llywodraeth y DU.

Dywedodd y cwmni ar y pryd eu bod nhw’n gwneud hynny “o safbwynt yr hyn sy’n rhesymol yn economaidd ar gyfer menter breifat".

Penderfynodd y cwmni dynnu’n ôl yn swyddogol ym mis Medi 2020.

Mae mudiadau fel Pobl Atal Wylfa B (PAWB) wedi dadlau mai nid ynni niwclear yw'r ateb. 

Mae PAWB wedi brwydro yn erbyn gorsaf niwclear newydd ar yr ynys ers degawdau.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru: "Mae'r cyhoeddiad hwn wedi bod yn hir yn dod ers tro byd, a phe bai'r ewyllys wleidyddol wedi bod yno, gallem fod wedi bod ar ein ffordd i gynhyrchu pŵer niwclear o Wylfa erbyn hyn.

"Gyda chostau ynni'n codi'n sydyn a diweithdra'n codi yng Nghymru, dylem fod yn arwain ar bŵer niwclear, nid oedi fel yr ydym wedi'i wneud nawr ers blynyddoedd lawer.

"Yn anffodus, mae cefnogaeth llugoer gan Blaid Cymru i niwclear hefyd wedi chwarae rhan wrth arafu hyn, er bod ganddo'r potensial i ddod â manteision economaidd enfawr i'r ardal a Chymru gyfan."

 


 


 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.