Teyrnged i filwr 21 oed oedd yn 'frawd i lawer'

Joshua Houghton

Mae teulu milwr ifanc a fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr M48 ddydd Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddo.

Roedd Joshua Houghton yn 21 oed ac yn dod o Ddyfnaint, ac roedd yn Gomando gyda'r Môr-filwyr Brenhinol.

Bu farw yn y fan a'r lle yn y gwrthdrawiad un cerbyd am tua 02:30.

Mae ei deulu’n parhau i gael cymorth gan swyddogion arbenigol. 

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu fod Mr Houghton yn "frawd a ffrind hoffus, rhywun oedd yn llenwi ystafell gyda goleuni".

“Dechreuodd ei gariad tuag at antur a’i chwilfrydedd pan oedd yn ifanc. Roedd yn addoli ei frawd mawr, yn ei edmygu ac yn ei ddilyn o gwmpas fel cysgod," meddai.

“Roedd ganddo wên i bawb a phob sefyllfa, roedd ei gariad at fywyd yn heintus, ac roedd pob taith yn antur fawr.

“Roedd newydd gwblhau ei hyfforddiant, ac roedd yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am ei rôl fel Comando Brenhinol gyda’r un cyffro, ymroddiad a brwdfrydedd ag arfer."

Ychwanegodd y deyrnged: “Roedd Joshua yn gweld y gorau ym mhawb, ac ni waeth beth oedd yn ei wynebu roedd bob amser yn gwneud hynny gyda gwên fawr a synnwyr digrifwch. 

"Doedd arno ddim ofn gwneud unrhyw beth, ac roedd ei sgiliau cadarn a mentrus yn amlwg ym mhopeth roedd yn ei wneud. Roedd bob amser yno i gefnogi ei ffrindiau."

Dywedodd ei deulu fod ei frwolaeth wedi gadael bwlch anferthol ym mywydau cymaint o bobl, "ond hefyd mae wedi gadael rhodd o gynhesrwydd, tosturi a natur ofalgar tu hwnt, a fydd yn aros gyda phawb a oedd yn ei adnabod."

Bydd ei angladd yn Eglwys St Albans, Lympstone.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.