Cabinet Cyngor Conwy yn penderfynu ymgynghori ar ddyfodol dwy ysgol wledig
Mae Cabinet Cyngor Conwy wedi penderfynu'n unfrydol ar ymgynghori ar ddyfodol dwy ysgol wledig yn y sir.
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth fe wnaeth y cabinet bleidleisio'n unfrydol i agor ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Ysbyty Ifan ac Ysgol Betws-y-Coed.
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau cyn diwedd y mis ac yn dod i ben erbyn diwedd mis Rhagfyr ar yr hwyraf.
Mae gan Ysgol Ysbyty Ifan le i dderbyn 40 o ddisgyblion, a 14 o ddisgyblion sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd.
Y dyraniad refeniw cyffredinol ar gyfer Ysgol Ysbyty Ifan ym mlwyddyn ariannol 2025/26 oedd £242,368, sy'n cyfateb i gost o £15,637 fesul disgybl.
Ar gyfartaledd, mae’r swm yn £5,148 fesul disgybl drwy'r sir.
'Cymuned yn rhoi eu barn'
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Owain Roberts mai'r "ffordd decaf ymlaen yw rhoi cyfle i'r gymuned roi eu barn ac fe fyddwn yn ystyried hynny yn ofalus.
"Dwi'n cefnogi'r ffaith fod o'n deg ac yn iawn i'r gymuned roi eu barn ar ddyfodol yr ysgolion."
Ychwanegodd y Cynghorydd Goronwy Edwards: "Dwi'n meddwl fod angen i ni edrych ar ddull sydd yn llawer yn fwy holistig i addysg yn yr ardal wledig yma.
"Mae angen ymgynghoriad llawer ehangach ar ysgolion yn yr ardal wledig hon."
Mae gan Ysgol Betws-y-Coed le i dderbyn 100 o ddisgyblion, ac mae 14 o ddisgyblion ar y gofrestr.
Fe wnaeth y cabinet bleidleisio ar y penderfyniad wedi i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Sgiliau a’r Cabinet yn ystyried adroddiadau ar yr ysgolion.
Fe ddywedodd y Cynghorydd Dilwyn Owain Roberts: "Unwaith eto dydi hon ddim yn sêt gyfforddus ond mae amgylchiadau yn codi pan mae rhywun yn gorfod ystyried yn ddwys.
"Dwi'n fodlon eilio y penderfyniad hwn achos dwi'n meddwl bod o yn deg i’r gymuned a'r gymuned ehangach i roi eu barn ac fe fyddwn yn ystyried hynny."
Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Edwin Luckock: "Dwi'n meddwl fod y farn gyffredinol gan bobl Conwy yn newid yn nhermau ysgolion bychain, boed yn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ysgolion cyfrwng Saesneg.
"Dwi'n meddwl ei fod yn anochel yn yr amgylchiadau presennol yn yr oes sydd ohoni. Dwi'n cefnogi'r ymgynghoriad yma yn llawn."