Pêl-droed: Abertawe yn diswyddo Alan Sheehan fel prif hyfforddwr
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi diswyddo rheolwr y clwb Alan Sheehan, gyda'r Elyrch yn safle 18 yn y Bencampwriaeth.
Cafodd ei benodi'n rheolwr parhaol ddiwedd y tymor diwethaf wedi cyfnod llwyddiannus fel rheolwr dros dro.
Dim ond pedair gêm mae'r Elyrch wedi ennill yn y gynghrair eleni, y nifer isaf o fuddugoliaethau yn eu 15 gêm agoriadol ers iddyn nhw ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr yn 2018.
Collodd Abertawe 4-1 yn erbyn Ipswich Town y penwythnos diwethaf.
Mewn datganiad, dywedodd y clwb fod y "penderfyniad anodd hwn" wedi ei wneud ar ôl cyfres o ganlyniadau siomedig.
"Doedd y canlyniadau a'r perfformiadau ddim yn cwrdd â'r safonau yr ydym yn eu disgwyl yn ystod y cyfnod hwn yn y tymor," meddai'r clwb.
Ychwanegodd yr Elyrch bod yr ymdrechion i ddod o hyd i brif hyfforddwr newydd eisoes wedi dechrau, ac y bydd diweddariad i gefnogwyr y clwb pan fydd y broses honno wedi ei chwblhau.
Dywedodd perchnogion Abertawe, Brett Cravatt a Jason Cohen: "Mae Alan wedi bod yn allweddol wrth ein cynorthwyo i wella'r clwb dros ddau gyfnod o amser
"Mae'r clwb yn dymuno diolch iddo am ei holl waith caled yn ystod ei gyfnod gydag Abertawe. Rydym yn dymuno'r gorau i Alan a'i deulu yn y dyfodol."
Dyma oedd swydd gyntaf Alan Sheehan fel prif hyfforddwr wedi cyfnodau fel hyfforddwr gyda chlybiau Luton Town a Southampton.
Mae gêm nesaf Abertawe yn erbyn Bristol City ar 22 Tachwedd.