Dynes o'r Wyddgrug wedi marw ar ôl cael ei 'gwasgu gan ei fan' yn Awstralia
Mae cwest wedi clywed fod dynes o'r Wyddgrug wedi marw ar ôl iddi gael ei gwasgu gan ei fan mewn seiclon tra'n teithio yn Awstralia.
Bu farw Eleanor Thompson ar ôl iddi gael ei darganfod o dan y cerbyd yn Burringbar, talaith New South Wales, ar 11 Mawrth.
Roedd Ms Thompson, a oedd yn cael ei hadnabod fel Ellie, yn wreiddiol o'r Wyddgrug ond wedi byw yn Llundain am 12 mlynedd ble'r oedd yn gweithio yn y meysydd yswiriant, marchnata a digwyddiadau.
Wedi iddi deithio i Wlad Thai, Cambodia a Fietnam yn 2022, dychwelodd adref am gyfnod cyn teithio i Awstalia yn 2023 ble'r oedd wedi bod yn trawsnewid fan.
'Llawn antur'
Clywodd y cwest ei bod wedi addo taith yn y fan i'w thad yn ddiweddarach y flwyddyn honno.
Dywedodd ei thad, Peter Thompson: "Roedd bywyd Ellie yn llawn antur."
Ar adeg ei marwolaeth, roedd Ms Thompson yn gweithio mewn tafarn ym Mullabimby, ac yn edrych ar ôl tŷ ei ffrind yn Burringbar.
Fe wnaeth adroddiad heddlu a gafodd ei ddarllen gan Uwch Grwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, John Gittins ddatgan: "Er na ellir rhoi unrhyw cysylltiad achosol, mae'n arwyddocaol ei bod wedi marw yn ystod y cyfnod pan yr oedd seiclon digynsail a difrifol yn effeithio ar yr ardal."
Clywodd y cwest fod y storm wedi para o 22 Chwefror i 8 Mawrth, a bod ei heffeithiau wedi parhau tan 11 Mawrth.
Fe anfonodd Ms Thompson neges at ei mam, Amanda Thompson, ychydig cyn hanner dydd ar 8 Mawrth, cyn iddi weld ffrind yn ddiweddarach.
Ond nid oedd wedi cael ei gweld yn siarad gydag unrhyw un arall wedi 13:00 ar y diwrnod hwnnw, a ni lwyddodd i gyrraedd ei shifft yn y gwaith ar 10 Mawrth.
Fe glywodd y cwest fod ffrindiau wedi mynd i'r tŷ lle'r oedd Ms Thompson wedi bod yn aros ar 11 Mawrth, gan weld ei fan Mazda oddi ar ochr y man parcio.
Fe gafodd corff Ms Thompson ei ddarganfod o dan y cerbyd ac fe ddaeth cadarnhad ei bod wedi marw ychydig wedi hanner dydd ar 11 Mawrth.
Fe wnaeth archwiliad post mortem gofnodi ei bod wedi marw yn sgil sawl anaf.
Ar ôl cofnodi dyfarniad o farwolaeth ddamweiniol, fe diolchodd Mr Gittins i rieni a brawd Ms Thompson am fynychu'r cwest.
Ychwanegodd Mrs Thompson: "Mae'r teyrngedau yr ydym ni wedi eu derbyn ar gyfryngau cymdeithasol a gan ei ffrindiau, pobl a wnaeth siarad yn ei hangladd - maen nhw wir wedi ein cyffwrdd ac wedi bod o gymorth mawr."