Romeo a Juliet: Y Gymraeg i'w chlywed am y tro cyntaf ar lwyfan y Globe
Mae cynhyrchiad ddwyieithog Theatr Cymru o'r ddrama Romeo a Juliet yn cael ei pherfformio ar lwyfan y Globe yn Llundain nos Fercher.
Dyma fydd y tro cyntaf y bydd cynhyrchiad sydd gyda Chymraeg yn rhan ohoni yn cael ei chlywed ar y llwyfan enwog.
Mae'r ddrama ddwyieithog wedi bod ar daith o gwmpas Cymru yn barod ers diwedd Medi.
Addasiad o ddrama drasiedi William Shakespeare yw hon sydd yn drasiedi oesol sydd yn pontio diwylliannau ac ieithoedd. Mae'n adlewyrchu dau fyd y Montagiws a'r Capiwlets.
Geiriau Shakespeare yw'r rhai Saesneg gyda chyfieithiad Cymraeg J. T. Jones yn rhan o'r cynhyrchiad hefyd.
Steffan Cennydd sydd yn chwarae'r rhan Romeo tra bod Juliet yn cael ei phortreadu gan Isabella Colby Browne. Ymhlith gweddill y cast mae Owain Gwynn, Llinor ap Gwynedd, Eiry Thomas, Jonathan Nefydd a Michelle McTernan.
Gofod 'delfrydol'
Steffan Donnelly sydd yn cyfarwyddo ac mae'r cynhyrchiad yn gydweithrediad gyda Shakespeare’s Globe.
"Mae’r Sam Wanamaker Playhouse yn Shakespeare’s Globe yn theatr sydd heb ei thebyg, yn ofod cwbl fyw lle mae'r amgylchedd agos atoch chi wedi’i grefftio’n berffaith, sy’n ddelfrydol ar gyfer y ddrama yma," meddai.
Dywedodd bod cydweithio efo tîm y Globe yn "fraint".
Yn ôl Michelle Terry, Cyfarwyddwr Artistig Shakespeare’s Globe mae'n "fraint" bod y cynhyrchiad yn dod i'r Globe.
“Rydym mor falch a chyffrous i groesawu Steffan a’i gwmni eithriadol i’r Globe gyda’r cynhyrchiad arloesol yma, sydd o ran ffurf a chynnwys yn gofyn i ni ddod at ein gilydd i ddathlu yr hyn sy'n wahanol amdanom," meddai.
"Mae’n anrhydedd hefyd fod Steffan wedi dewis y Globe fel y brif theatr gyntaf yn Llundain i rannu gwaith pwysig Theatr Cymru.”
Llun: Theatr Cymru
