Gwisg Will Ferrell o Elf i fynd ar werth mewn ocsiwn

Elf

Mae gwisg adnabyddus Will Ferrell o'r ffilm Nadolig poblogaidd Elf ar fin gael ei werthu yn Llundain. 

Yr awgrym yw y gallai gael ei werthu am rhwng £100,000 a £200,000. 

Cafodd y ffilm ei rhyddhau yn 2003 am gorrach o begwn y gogledd, sy'n mentro i Efrog Newydd i chwilio am ei dad. Mae'n cael ei hystyried yn un o'r ffilmiau Nadolig gorau erioed. 

Mi fydd yr arwerthiant byw yn arddangos amrywiaeth eang o bropiau a gwisgoedd ffilmiau o bob genre. 

Mae gwerth £8,000,000 yno, gyda dros 1,350 o eitemau. 

Fe fydd arddangosfa dau ddiwrnod yn cael ei gynnal yng Ngwesty'r Cumberland yn Llundain i'r cyhoedd gael cip olwg ar yr eitemau cyn iddynt gael eu gwerthu.

Un o'r eitemau allai werthu am y swm uchaf yw blastr carbine EE-3 Boba Fett o'r ffilm Star Wars: The Empire Strikes Back (1980). Mae disgwyl i'r eitem gael ei werthu am rhwng £350,000 a £700,000.

Hefyd, yr het fedora, a gafodd ei wisgo gan Harrison Ford yn Indiana Jones and the Temple of Doom (1983), sy'n dod gyda phris swmpus o rhwng £150,000 a £300,000.

Mae sgriptiau personol yr actor Alan Rickman, a fuodd farw yn 2016 hefyd yn rhan o'r casgliad a nifer o bropiau o ffilmiau arswyd.  

Yn ôl Stephen Lane, Prif Weithredwr Propstore, sydd yn cynnal yr ocsiwn, mae hwn yn "gasgliad eithriadol" a phob eitem yn "rhan dyngedfennol o hanes adrodd straeon". 

Fe fydd yr arwerthiant yn digwydd ar y pumed o Ragfyr. 

Llun: Andrew Matthews/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.