
Cwmni o Sir Conwy yn colli £750,000 'oherwydd Brexit'

Cwmni o Sir Conwy yn colli £750,000 'oherwydd Brexit'
Mae cwmni o sir Conwy yn amcangyfrif eu bod nhw wedi colli gwerth £750,000 o allforion oherwydd Brexit.
Costau trafnidiaeth a'r gwaith gweinyddol sy'n gyfrifol am hynny, meddai cwmni Pero sy'n cynhyrchu bwyd ci.
Maen nhw hefyd yn dweud bod yna anghysondeb wrth geisio symud nwyddau i Ogledd Iwerddon.
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae'r newidiadau yn golygu bod yn rhaid i fusnesau addasu i'r prosesau newydd.
Yr Almaen, Ffrainc, America ac Iwerddon ydi'r marchnadoedd mwyaf o ran allforion Cymreig.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gwerth allforion o Gymru wedi gostwng dros y ddwy flynedd ddiwetha'. £13.4m oedd y ffigwr yn 2020, gostyngiad o £4.3m (lawr 24.4%) o'r flwyddyn flaenorol.
Ar ôl Brexit, fe ddaeth y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd i gytundeb masnachu newydd a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2021.
'Helynt wedi cael ei greu'
"Ni'n meddwl ein bod ni wedi colli £750,000 o allforio i Ewrop ac Iwerddon yn gyfan gwbl sy'n swm mawr i gwmni bychan fel ni," meddai Jonathan Rees, cyfarwyddwr Pero ym Metws y Coed.
"Mae'r cwsmeriaid oedd gyda ni yn Ewrop - y mwyafrif ohonyn nhw - wedi troi rownd a dweud bod nhw ddim am ddelio gyda ni.
"Dim oherwydd ansawdd y bwyd a beth i ni'n gyflawni iddyn nhw, jyst oherwydd costau trafnidiaeth, y gwaith papur a'r helynt sy'n cael ei greu."

Mae symud y cynnyrch i Ogledd Iwerddon yn ogystal yn gallu bod yn drafferthus. Pwrpas protocol Gogledd Iwerddon ydi i osgoi ffin galed yn Iwerddon. Mae hynny'n golygu bod y gogledd o fewn marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd o ran nwyddau. Ond ma hynny wedi creu ffin fasnach newydd ym môr Iwerddon.
Ychwanegodd Mr Rees: "Y broblem fwyaf yw i ni'n gwneud y gwaith papur fel i ni'n dybio'n gywir, un tro gall y llwyth fynd drwyddo heb unrhyw broblem a'r llwyth nesa' allwn ni gael ein stopio a gofyn am fwy o fanylion am waith papur sydd wedi cael ei lenwi union yr un peth a'r tro cyn hynny."
'Wastad wedi bod yn glir'
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, maen nhw "wastad wedi bod yn glir" y byddai'n rhaid i fusnesau addasu i brosesau newydd drwy fod tu allan y farchnad sengl a'r undeb tollau.
"Dyna pam ry'n ni'n sicrhau bod busnesau yn cael y gefnogaeth maen nhw angen i fasnachu'n effeithiol gydag Ewrop ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd wrth i ni daro bargeinion masnach ar draws y byd," ychwanegodd.
"Yn ogystal a gweithredu llinellu ffon sy'n rhoi cymorth o ran allforio, rhedeg gweminar gyda arbenigwyr a chynnig cymorth i fusnesau drwy ein rhwydwaith o 300 o gynghorwyr masnachu rhyngwladol, ry'n ni wedi oedi cyflwyno rheolaethau mewnforio llawn i roi mwy o amser i fusnesau baratoi."