'Gwyrth' i fod dal yn fyw medd unig oroeswr Air India

Vishwash Kumar Ramesh, goroeswr damwain Air India

Mae unig oroeswr damwain Air India wedi dweud bod hi'n "wyrth" ei fod dal yn fyw ond fod marwolaeth ei frawd wedi "cymryd ei holl hapusrwydd" oddi wrtho.

Bron i bedwar mis ers y ddamwain yn ninas Ahmedabad yn India mae Vishwash Kumar Ramesh wedi dweud ei fod yn cael "ôl-fflachiadau" yn gyson.

Wrth siarad gyda gwasanaeth newyddion PA dywedodd fod ei deulu wedi "colli popeth" ar ôl i'w frawd Ajay, oedd ar yr un awyren, farw.

Mae Mr Ramesh sydd yn 39 oed yn dweud bod siarad am yr hyn ddigwyddodd yn dal yn "boenus iawn".

Fe gafodd 241 o bobl oedd yn yr awyren Boeing 787 eu lladd pan darodd yr awyren yn erbyn coleg meddygol yn fuan wedi iddi esgyn ym mis Mehefin.

Mr Ramesh oedd yr unig oroeswr ar yr awyren.

Yn ogystal cafodd 19 o bobl eraill eu lladd a 67 o bobl eraill eu hanafu yn ddifrifol. 

'Enw ar daenlen'

Mae cynghorwyr Mr Ramesh wedi beirniadu'r gofal y mae o wedi ei dderbyn wedi'r ddamwain gan honni ei fod wedi ei drin fel "enw ar daenlen (spreadsheet)".

Maent wedi gofyn i brif weithredwr y cwmni awyrennau i gwrdd â nhw i gael clywed am sefyllfa bresennol Mr Ramesh ac yn dweud bod y cais wedi ei "anwybyddu" sawl gwaith.

Mewn datganiad mae Air India wedi dweud bod cynnig wedi ei wneud i gyfarfod Mr Ramesh gan Tata Group, sydd yn bartner cwmni a bod gofal i deuluoedd y dioddefwyr yn "parhau yn flaenoriaeth".

Y gred yw bod taliad dros dro wedi ei drosglwyddo i Mr Ramesh.

'Duw rhoi fy mywyd i fi'

Mae adroddiad cychwynnol i'r digwyddiad wedi darganfod bod cyflenwad tanwydd yr awyren wedi diffodd ychydig eiliadau cyn i'r ddamwain ddigwydd. Mae hyn wedi codi cwestiynau a oedd y ddamwain yn un bwriadol.

Mewn cyfweliad gyda PA mae Mr Ramesh yn dweud ei fod wedi colli "popeth" wedi marwolaeth ei frawd. 

"Fe wnaeth Duw rhoi fy mywyd i fi ond cymryd fy holl hapusrwydd oddi arna i ac oddi wrth fy nheulu," meddai.

Dywedodd ei fod yn ddiolchgar am gefnogaeth ei deulu ehangach ond bod ei fam, ei dad a'i frawd ieuengaf wedi "torri lawr yn llwyr" wedi'r ddamwain.  Dydy o ddim yn hoffi siarad llawer meddai.

"Fe gollais fy mrawd, 35 mlwydd oed. Bob dydd dwi'n stryglo."

Dyw Mr Ramesh ddim yn gallu siarad am yr hyn ddigwyddodd. Mewn datganiad wedi'r cyfweliad gyda help ei gynghorwyr dywedodd ei fod yn effro yn y nos o achos "ôl-fflachiadau" ac mae ei frawd oedd ei "gryfder, fo oedd popeth i fi". 

Llun: Jacob King/PA Wire

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.