Cymoedd y de angen swyddi gwell yn agosach at adref medd adroddiad
Mae adroddiad newydd yn dweud bod hi'n bosib mai cymoedd y de yw'r ardal ôl ddiwydiannol mwyaf ddifreintiedig ym Mhrydain.
Yn ôl y ddogfen 'Y Camau nesaf i'r Cymoedd' mae angen mwy o swyddi a swyddi gwell sydd yn agosach at gartrefi pobl.
Mae'r adroddiad sydd wedi ei lunio gan Gynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru yn dweud bod y cymoedd yn colli ar fuddsoddiad busnes ac wedi dioddef ar ôl i arian Undeb Ewropeaidd ddod i ben.
Cynrychiolwyr o awdurdodau lleol ar draws ardaloedd diwydiannol yw Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod ar hyn o bryd yn cefnogi ystod o raglenni a buddsoddiadau economaidd ar draws cymoedd y de er mwyn "sicrhau mwy o swyddi a thyfiant economaidd hir dymor".
Tra yn dweud mai'r sector breifat sydd angen creu'r swyddi yn y cymoedd mae'r adroddiad yn dweud bod angen i'r sector gyhoeddus hefyd "feithrin y twf yma trwy ei pholisïau ei hun a buddsoddiadau".
Mae'r ddogfen yn dweud nad oes yna ddigon o gefnogaeth allweddol wedi ei rhoi yn ystod y ddegawd ddiwethaf i'r ardal.
Teithio i gael gwaith
Yn ôl y Gynghrair mae ystadegau yn dangos bod yna heriau yn y cymoedd o safbwynt cael swyddi. Dim ond 46 o swyddi sydd ar gael am bob 100 o drigolion oed gweithio.
Mae nifer uchel o drigolion yn gorfod teithio tu allan i'r cymoedd i gael gwaith, weithiau am fwy nag awr ac yn aml ar drafnidiaeth gyhoeddus. Yn ogystal mae lefelau uchel o bobl yn hawlio budd-daliadau anabledd a nifer yn dweud nad yw eu hiechyd yn dda.
Mae'r adroddiad yn nodi bod angen ymrwymiad hir dymor ar gyfer y cymoedd a sicrwydd buddsoddiad ariannol. Hefyd mae lleisiau arweinwyr a phobl leol yn hanfodol.
Ymhlith y 10 argymhelliad sydd wedi eu nodi mae darparu system brentisiaethau sydd yn gweithio, buddsoddi mewn safleoedd busnes a lleihau'r amser mae'n cymryd i deithio ar drên neu fws i ddinasoedd agos er mwyn mynd i'r gwaith.
'Cefnogi amrywiaeth o fuddsoddiadau'
Yn ôl llefarydd Llywodraeth Cymru maent yn cefnogi "amrywiaeth o fuddsoddiadau a rhaglenni datblygu economaidd" yn y cymoedd.
Yn eu plith mae rhaglen Tech Valleys sydd gyda'r bwriad o "drawsnewid economi'r cymoedd yn ganolfan i ddatblygu technolegau newydd mewn diwydiant blaengar."
Maent hefyd yn sôn am y gwelliannau sydd wedi eu gwneud i Ffordd A465 Cymoedd y De gan ddweud bod 1,000 o swyddi newydd wedi eu creu sydd wedi dod o'r rhanbarth. Yn ogystal maent yn cyfeirio at Gronfa Twf Lleol Newydd sydd yn werth £547m dros dair blynedd o fis Ebrill 2026.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Llywodraeth y DU am ymateb.
