Y Lluoedd Arfog i elwa o'r 'trawsnewidiad mwyaf sylweddol' i dai milwrol y DU

raf fali.jpg

Fe fydd aelodau o'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd yng Nghymru yn elwa o'r 'trawsnewidiad mwyaf sylweddol o dai milwrol y DU mewn mwy na 50 mlynedd' yn ôl Llywodraeth y DU. 

Fe fydd mwy na 40,000 o o gartrefi teuluol y gwasanaeth ledled y DU yn cael eu moderneiddio, eu hadnewyddu neu eu hailadeiladu.

Byddant hefyd yn elwa o Wasanaeth Tai Amddiffyn annibynnol, i reoli cartrefi milwrol yn well wrth eu cadw mewn dwylo cyhoeddus.

Mae'r Strategaeth Tai Amddiffyn newydd, a fydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Llun, yn cael ei chefnogi gan fuddsoddiad £9bn.

Cartrefi newydd

Mae'r Ysgrifennydd Amddiffyn John Healey hefyd wedi datgan ei fwriad i adeiladu mwy na 100,000 o gartrefi newydd ar dir dros ben y Weinyddiaeth Amddiffyn a fydd yn gartrefi i deuluoedd sifil a milwrol.

Dywed y llywodraeth y bydd hyn yn hwb i dwf economaidd ac y bydd yn cefnogi miloedd o swyddi. 

Mae'r strategaeth newydd wedi ei seilio ar adborth gan filoedd o deuluoedd y gwasanaeth, gan gynnwys yng Nghymru. 

Mae 801 o eiddo Llety Teuluol yng Nghymru, ac mae'r llywodraeth yn dweud fod "gwaith gwella cyflym eisoes ar waith mewn 107 o dai y gwasanaeth ar draws canolbarth a gorllewin Cymru. "

Safon

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens: "Mae gan Gymru draddodiad hir a balch o wasanaeth milwrol, ac mae'n briodol bod y tai sy'n cael eu darparu ar gyfer ein personél yn y gwasanaeth a'u teuluoedd o'r safon orau.

“Mae'r Lluoedd Arfog yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi Cymru yn ogystal ag i'n diogelwch cenedlaethol."

Mae ffigyrau diweddaraf y llywodraeth yn dangos fod Cymru wedi derbyn £1.1bn mewn gwariant amddiffyn yn y flwyddyn ddiwethaf, gan gefnogi 3,900 o swyddi Cymreig ar draws amryw o sectorau. 

Mae hyn yn ôl y llywodraeth yn cynrychioli £340 mewn gwariant amddiffyn i bob person ar draws Cymru. 

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn John Healey: "Mae ein personél lluoedd arfog ym Mhrydain a’n cyn-filwyr yn cyflawni’r gwasanaeth cyhoeddus eithaf. Mae ein cenedl yn falch ohonynt. A’r lleiaf y maen nhw yn ei haeddu ydy cartref priodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.