
‘Gwasanaethau capeli digidol i aros’

‘Gwasanaethau capeli digidol i aros’
“Does dim troi yn ôl o’r defnydd o ddigidol.” Dyna’r neges gan rai o gapeli Cymru wrth iddynt ail agor.
Bu rhaid iddynt addasu’n gyflym wrth i Gymru wynebu’r cyfnod clo cyntaf ym Mawrth 2020, gyda gwasanaethau digidol yn troi’n fwy cyffredin.
Ond wrth ddrysau ail agor, mae nifer yn benderfynol o gadw’r agwedd ddigidol law yn llaw gyda gwasanaethau traddodiadol.
Dywedodd y Parchedig Beti Wyn James o Briordy, Cana a Bancyfelin: “Pan gaewyd drysau'r capel, odd e cymaint o sioc, hynny yw sdim cof gyda ni o ddryse'r capel yn cau erioed yn hanes Cymru.
“Maen nhw 'di bod ar agor trwy ddau ryfel byd. Ond mae'n rhyfeddol shwd mae pethau newydd yn gallu tyfu allan o ryw fath o argyfwng."
Ychwanegodd: “Y peryg yw o bosib falle bydd rhai yn teimlo bod hi'n haws iddyn nhw aros adre i wrando ar yr oedfa ddigidol.
“Ond i ni ddim wedi profi hynny; dwi ddim yn credu bod 'na neb o'r ffyddloniaid ddim wedi dychwelyd i'r oedfa.”

Mae rhai o aelodau Capel Bryn Iwan yn Sir Gaerfyrddin hefyd wedi manteisio ar y newid i ddigidol.
Eifion Thomas, aelod o gapel Bryn Iwan: “Ma' nifer fawr ohonon ni wedi gadael technoleg ar ôl, ar ôl dyddie ysgol, ac mae'n neis nawr i fynd nôl i gydio yndo fe.”
Gobaith y capeli felly yw manteisio ar yr y byd ddigidol, gan ddod a chwa o bositifrwydd wedi blwyddyn anodd.