Corwynt Melissa: O leiaf 19 wedi marw yn Jamaica

Storm Melissa, Jamaica (Reuters)

Mae o leiaf 19 o bobl wedi marw yn Jamaica o ganlyniad i Gorwynt Melissa, yn ôl Gweinidog Gwybodaeth y wlad, Dana Morris Dixon.

Mae ymdrechion chwilio ac achub yn parhau wrth i'r awdurdodau geisio cyrraedd ardaloedd sydd wedi'u taro waethaf.

Mae'r corwynt, un o'r rhai mwyaf pwerus i daro'r Caribî, hefyd wedi lladd o leiaf 30 o bobl yn Haiti, meddai swyddogion y wlad honno.

Fe aeth Dana Morris Dixon ymlaen i ddweud fod golygfeydd "gwbl ddinistriol" yn rhanbarthau gorllewin yr ynys, gyda'r mwyafrif o'r wlad yn parhau i fod heb drydan.

Mae rhannau o'r wlad hefyd yn parhau heb gyflenwad dŵr glan ers sawl diwrnod, ac wrth i fwyd fynd yn fwyfwy prin, mae cymorth dyngarol wedi dechrau cyrraedd ar ôl i brif faes awyr Jamaica, ddychwelyd yn ôl i normal i raddau helaeth.

Fe darodd y storm Jamaica ddydd Mawrth, gyda gwyntoedd cryfion oedd yn “peri peryg i fywyd” yn dechrau chwythu fore Mawrth. 

Roedd y wlad gyfan wedi wynebu'r amodau tywydd eithafol, gyda'r tywydd ar ei waethaf yng ngorllewin y wlad, yn bennaf yn ardal Bae Montego.

Roedd arbenigwyr wedi rhybuddio mai Corwynt Melissa oedd y corwynt mwyaf pwerus erioed i daro Jamaica gyda gwyntoedd hyd at 185mya, a hyd at 101cm (40 modfedd) o law wedi eu cofnodi ar draws yr ynys. 

Ddydd Mercher, fe wnaeth Prif Weinidog Jamaica, Andrew Holness ddatgan "stad o argyfwng" yn y wlad, gan rybuddio y bydd "effeithiau dinistriol" y storm i'w gweld am beth amser.

Dyma'r storm fwyaf ffyrnig i daro unrhyw le yn y byd hyd yma eleni, yn ôl yr arbenigwyr. 

Fe aeth y storm ymlaen i gyfeiriad ynys Ciwba gyda gwyntoedd o 120mya yn cael eu cofnodi yno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.