Asiant gosod tai yn ymddiheuro am 'anwybodaeth' gyda thrwydded rhentu Reeves
Mae'r asiant oedd yn gyfrifol am rentu cartref teuluol y Canghellor, Rachel Reeves wedi ymddiheuro am "anwybodaeth" a arweiniodd at fethu â chael y drwydded gywir.
Dywedodd Gareth Martin, perchennog cwmni Harvey & Wheeler, fod rheolwr eiddo blaenorol y cwmni wedi cynnig gwneud cais am drwydded rhentu ar ran eu cleient - ond ni ddigwyddodd hyn erioed gan fod y rheolwr wedi ymddiswyddo cyn i'r denantiaeth ddechrau.
Ychwanegodd: "Rydym yn edifar fawr am y broblem a achoswyd i'n cleientiaid gan y byddent wedi bod o dan yr argraff bod cais wedi cael ei wneud am drwydded."
Ddydd Iau, fe ddywedodd Syr Keir Starmer nad oes angen cynnal ymchwiliad i gyfaddefiad Rachel Reeves iddi dorri rheolau wrth rentu ei chartref teuluol.
Rhoddodd y Prif Weinidog ei gefnogaeth lawn i Ms Reeves, ar ôl ymgynghori â'i gynghorydd moeseg annibynnol, Syr Laurie Magnus.
Cyfaddefodd y Canghellor i Syr Keir nad oedd hi wedi cael y drwydded rhentu oedd yn ofynnol ar gyfer ei chartref yn ne Llundain pan symudodd i Rhif 11 Downing Street ar ôl i Lafur ennill yr etholiad.
Datgelodd llythyrau rhwng y Prif Weinidog a Ms Reeves eu bod wedi cyfarfod i drafod y mater nos Fercher, ar ôl i'r mater ddod i'r amlwg.
Dywedodd Ms Reeves wrth y Prif Weinidog nad oedd hi a'i theulu "yn anffodus" yn ymwybodol bod angen trwydded yn eu hardal benodol o fwrdeistref Southwark yn Llundain.
Mae Cyngor Southwark yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sy'n rhentu eu heiddo mewn rhai ardaloedd, i gael un o'r trwyddedau cyn eu bod yn gosod eu heiddo.
Gall peidio â gwneud hynny arwain at erlyniad neu ddirwy.
Dywedodd Ms Reeves wrth Syr Keir: “Roedd hwn yn gamgymeriad anfwriadol. Cyn gynted ag y daethpwyd i'm sylw, fe wnaethom gymryd camau ar unwaith ac rydym wedi gwneud cais am y drwydded.”
Ychwanegodd: “Rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant am y camgymeriad hwn a byddwn yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.”
