Cwpan yr EFL: Caerdydd i wynebu Chelsea yn rownd yr wyth olaf
Fe fydd CPD Dinas Caerdydd yn wynebu Chelsea yn rownd yr wyth olaf Cwpan yr EFL.
Yr Adar Gleision ydy'r unig dîm o Gymru sydd ar ôl, wedi iddyn nhw guro Wrecsam ar y Cae Ras nos Fawrth, ac fe wnaeth Abertawe golli yn erbyn Manchester City nos Fercher.
Fe fydd y gemau yn cael eu chwarae yn ystod wythnos 15 Rhagfyr.
Bydd Arsenal yn wynebu Crystal Palace, Man City yn herio Brentford, a Newcastle United yn wynebu Fulham yng ngweddill y gemau.
Mae Caerdydd yn chwarae yn Adran Un, ac fe fyddan nhw'n wynebu Chelsea, sydd yn Uwch Gynghrair Lloegr, yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Llun: Asiantaeth Huw Evans