Dyn yn pledio'n ddi-euog i lofruddio merch 16 oed

Golwg 360 20/08/2021
Wenjing Lin

Mae dyn wedi pledio'n ddi-euog i gyhuddiad o lofruddio Wenjing Lin, 16 oed, yn Rhondda Cynon Taf ym mis Mawrth.

Bu farw Wenjing Lin yn siop Blue Sky Chinese yn Ynyswen ger Treorci ar 5 Mawrth 2021.

Fe wnaeth Chun Xu hefyd bledio'n ddi-euog i geisio llofruddio Yongquan Jiang, 38.

Dywed Golwg360 fod disgwyl iddo fynd o flaen Llys y Goron Abertawe ar 1 Tachwedd.

Darllenwch y stori yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.