Datrys dirgelwch arwydd newydd Wrecsam

Mae’r dirgelwch o amgylch yr arwydd newydd yn Wrecsam wedi’i ddatrys.
Fe ddeffrodd pobl Wrecsam i arwydd newydd mewn steil Hollywood yn edrych lawr ar y dref yn gynharach yr wythnos hon.
Gyda nifer yn dyfalu mai Ryan Reynolds a Rob McElhenney, perchnogion newydd CPD Wrecsam, oedd yn gyfrifol, bu’n rhaid i Reynolds droi at Twitter i ddistewi unrhyw sïon.
Yn ôl WalesOnline, un o noddwyr y Gynghrair Genedlaethol, cwmni Vanarama, sy’n gyfrifol, fel rhan o’u hymgyrch farchnata.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: ITV