Casnewydd: Arestio dau o bobl wedi anhrefn
Mae dau o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn adroddiadau o anhrefn yng Nghasnewydd fore Sul.
Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth wedi'r digwyddiad ar Stryd yr Eglwys yn y ddinas.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i'r ardal am 01:10 fore Sul yn dilyn adroddiadau fod tua wyth o bobl yn ymladd yno.
Fe wnaeth ymholiadau'r swyddogion arwain at arestio dyn 32 oed a dyn 39 oed ar amheuaeth o achosi ffrwgwd.
Mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Mae swyddogion yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2500341642.