Kamala Harris 'ddim yn diystyru sefyll eto i fod yn Arlywydd UDA'
Mae cyn-Is Arlywydd yr Unol Daleithiau Kamala Harris wedi dweud fod posibilrwydd y byddai hi'n sefyll eto i fod yn Arlywydd.
Mewn cyfweliad gyda Laura Kuenssberg, fe ddywedodd Ms Harris y byddai hi "o bosib" yn Arlywydd eto un diwrnod, ac ei bod yn hyderus y byddai yna ddynes yn y Tŷ Gwyn yn y dyfodol.
Fe dderbyniodd Ms Harris enwebiad y blaid Ddemocrataidd yn America ar gyfer y ras arlywyddol y llynedd ym mis Awst 2024.
Fe gollodd Ms Harris yn erbyn Donald Trump yn y ras arlywyddol, ond mae hi wedi awgrymu y bydd hi'n ymgeisio eto yn 2028.
Pwysleisiodd nad oedd hi wedi gwneud penderfyniad eto, ond fe ychwanegodd ei bod hi dal yn gweld ei hun â dyfodol mewn gwleidyddiaeth.
"Dwi ddim wedi gorffen...mae o yn fy esgyrn," meddai.
Er nad yw'r arolygon barn yn ei hystyried hi fel un o'r ceffylau blaen i gynrychioli'r Democratiaid ar hyn o bryd, dywedodd Ms Harris nad oedd hi byth yn gwrando i'r arolygon barn.
"Pe bawn i yn gwrando i arolygon barn, fyddwn i fyth wedi rhedeg ar gyfer fy rôl gyntaf, na fy ail rôl - ac yn sicr fyddwn i ddim yn eistedd yma."