Disgwyl miloedd yn Llanberis ar gyfer Marathon Eryri

Marathon Eryri 24 (SportspicturesCymru)

Fe fydd miloedd o redwyr ac ymwelwyr yn teithio i Lanberis a’r cyffiniau ddydd Sadwrn ar gyfer Marathon Eryri.

Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei chynnal am y 41fed tro, yn cael ei ystyried yn un o’r marathonau ffordd fwyaf heriol y DU.

Mae’r ras yn amgylchynu’r Wyddfa, wrth i redwyr ddringo i frig Pen y Pas cyn ymlwybro drwy Fethania, Beddgelert, Rhyd Ddu a Waunfawr, a chyrraedd y llinell derfyn ynghanol bywiogrwydd Llanberis.

Andrew Davies o’r Drenewydd enillodd ras y dynion y llynedd, mewn amser o 2:28:41, gyda Louise Flynn o Gaerdydd yn ennill ras y menywod mewn 2:59:23.

Tagfeydd

Mae disgwyl y bydd tagfeydd ar y ffyrdd yn arwain i Lanberis fore Sadwrn, tra bod sawl ffordd wedi’i chau yn ystod y ras, sydd yn cychwyn am 10.30.

Fe fydd ffordd yr A4086 ym Mwlch Llanberis ar gau o 10:00 tan 11:30, bydd rhan o Stryd Fawr Llanberis ar gau o 07.00 tan 18:00, tra bod Bryn Goleu ar gau o 11:00 tan 15:30.

Bydd system unffordd yn cael ei rhoi ar waith o'r maes parcio Llwybr Watkin ar hyd yr A498 hyd at gyffordd Pen-y-gwryd, rhwng 10:45 ac 13:00 ar ddiwrnod y ras.

Bydd cyfyngiadau traffig yn cael eu gosod ym Meddgelert a Stryd Fawr Llanberis – o 20:00 ar ddydd Gwener 24 Hydref tan 18:00 ar ddydd Sadwrn 25 Hydref.

Mae trefnwyr hefyd yn annog y rhai sydd yn dod i wylio’r ras i fod yn eu lleoliad mewn digon o amser, gan geisio osgoi gyrru neu reidio beic ar hyd y cwrs.

Llun: SportspicturesCymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.