Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr
Mae un o glybiau pêl-droed hynaf Lloegr wedi cyflwyno hysbysiad i gael eu rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr ar ôl iddo ddod i'r amlwg fod Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) ar fin cyhoeddi deiseb i ddirwyn y clwb i ben.
Fe gafodd hysbysiad ei gyflwyno i'r Llys Ansolfedd a Chwmnïau yn yr Uchel Lys fore Gwener, ac fe fydd Sheffield Wednesday, sy'n chwarae yn y Bencampwriaeth yn Lloegr, nawr yn wynebu colli 12 pwynt oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd oddi ar y cae.
Mae staff a swyddogion y clwb wedi cael eu briffio, ac mae'r gweinyddwyr hefyd wedi dechrau cynnal cyfarfodydd â'r chwaraewyr.
Fe fydd y Tylluanod yn croesawu Rhydychen i'w cartref yn Hillsborough ddydd Sadwrn.
Daw'r newyddion yn dilyn nifer o brotestiadau gan gefnogwyr y clwb, gyda nifer o gefnogwyr yn boicotio'r gêm ddiwethaf yn erbyn Middlesbrough ddydd Mercher i ddangos eu hanfodlonrwydd gyda'r ffordd mae'r clwb wedi bod yn cael ei redeg.
Wrth fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, bydd yn dod â pherchnogaeth Dejphon Chansiri, sydd wedi bod yn berchen ar y clwb ers 10 mlynedd.
Mae'r Tylluanod eisoes ar waelod y Bencampwriaeth ac fe fydd colli'r 12 pwynt yn eu gadael 15 pwynt yn is na'r safle diogel yn y gynghrair.
Llun: Stadiwm Hillsborough (Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday)