Heddlu'n ymchwilio ar ôl dod o hyd i gorff yn Sir Ddinbych

Dawson Drive, Prestatyn

Mae heddlu'r gogledd yn ymchwilio ar ôl dod o hyd i gorff ym Mhrestatyn yn Sir Ddinbych.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Dawson Drive o'r dref ychydig cyn 08.40 fore Gwener yn dilyn adroddiad fod corff wedi ei ddarganfod yno.

Mae swyddogion wedi cau'r ardal ac yn gofyn i bobl gadw draw wrth i ymholiadau cychwynnol gael eu cynnal.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Lee Boycott: "Mae ymchwiliadau ar y gweill ar gyflymder i sefydlu amgylchiadau'r digwyddiad.

"Rydym yn deall y bydd pryder yn ein cymunedau lleol a byddwn yn parhau i'w hysbysu wrth i ni gasglu mwy o wybodaeth.

"Bydd presenoldeb plismona cynyddol yn lleol heddiw a dros y penwythnos i gefnogi ein hymchwiliad a thawelu meddyliau'r cyhoedd."

Fe aeth ymlaen i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ymchwiliadau'r heddlu i gysylltu â nhw.

Mae'r llu hefyd wedi gofyn i bobl beidio â dyfalu am yr hyn a ddigwyddodd.

Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei ddarparu maes o law, ychwanegodd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.