Llanelli i wynebu pencampwyr y Cymru Premier JD nos Wener
24/10/2025Yn dilyn saib ar gyfer ail rownd Cwpan Cymru JD, bydd y sylw’n troi’n ôl at y gynghrair y penwythnos hwn.
Fe lwyddodd naw o 12 clwb yr uwch gynghrair i gamu ymlaen i rownd nesaf y gwpan, gyda Hwlffordd, Llansawel a’r Bala yn colli yn erbyn clybiau eraill o’r haen uchaf.
Roedd hi’n ganlyniad rhagorol i Lanelli a enillodd o 3-0 yn erbyn Hwlffordd, ond bydd hi’n dasg anferth i’r Cochion nos Wener yma wrth i’r clwb sydd ar waelod y gynghrair groesawu’r clwb sydd ar y copa, Y Seintiau Newydd.
Ar ôl curo Llansawel yn gyfforddus o 5-0 bydd Pen-y-bont yn gobeithio am berfformiad cystal gartref yn erbyn Caernarfon wrth i’r timau sy’n 2il a 3ydd fynd benben yn Stadiwm Dragonbet brynhawn Sadwrn.
Ac wrth i’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf ddechrau cynhesu, bydd y gemau rhwng Y Bala a’r Barri, a Met Caerdydd a’r Fflint yn rhai allweddol yng nghanol y tabl.
Llanelli (12fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45
Bydd y tîm sydd ar waelod y gynghrair yn croesawu’r tîm sydd ar y brig i Barc Stebonheath nos Wener.
Roedd yna lwyddiant i’r ddau dîm ddydd Sadwrn diwethaf gyda Llanelli yn trechu Hwlffordd (3-0), a’r Seintiau Newydd yn ei gadael hi’n hwyr cyn curo’r Wyddgrug (1-2).
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill eu 10 gêm ddiwethaf ac yn dechrau’r penwythnos chwe phwynt uwchben Pen-y-bont (2il), tra bod Llanelli chwe phwynt o dan ddiogelwch y 10fed safle.
Llanelli sydd â’r record ymosodol waetha’n y gynghrair (0.5 gôl y gêm), tra mae’rSeintiau sydd â’r record ymosodol gryfaf yn y gynghrair (3 gôl y gêm).
Dyw Llanelli heb guro’r Seintiau ers ennill 1-0 yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru 2010/11 ble sgoriodd Chris Venables unig gôl y gêm.
Ers hynny, mae’r Seintiau wedi cadw chwe llechen lân yn olynol yn erbyn Llanelli, gan gynnwys yn y gêm gyfatebol rhwng y timau fis diwethaf ble enillodd y pencampwyr o 6-0 yn Neuadd y Parc.
Record cynghrair diweddar:
Llanelli: ✅✅❌❌❌
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.