Brynaman: Pennod newydd i un o sinemâu cymunedol olaf Cymru
Mae’n ddiwedd cyfnod ym Mrynaman wrth i'r sgrin sinema sydd wedi bod yn ei lle ers y 1950au gael ei thynnu oddi yno.
Dyma un o’r sinemâu cymunedol, annibynnol olaf yng Nghymru, ac un o’r enghreifftiau prin oedd yn dal i ddefnyddio’r hen dechnoleg.
Bydd angen newid y sgrin yn y neuadd gyhoeddus am resymau diogelwch ac er mwyn sicrhau dyfodol y neuadd.
“Mae llawer o bobl wedi tyfu lan efo’r neuadd gyhoeddus," meddai technegydd gwirfoddol y sinema, Tom North.
"Ma’ llawer o bobl yn cofio fe trwy’r blynydde a mae llawer o bobl dal yn dod yma since o nhw’n bach.
"Mae e yn calonnau pobl.
"Ond nawr bydd e’n haws i roi sioe ymlaen ar y llwyfan.
"Bydd dim angen diwrnod bob ochr i symud pethe, bydd e’n neud popeth yn gloi."
'Werth y byd'
Mae perfformiadau o bob math yn cael eu llwyfannu yn y neuadd, ac fe fydd gosod sgrin rholio fodern yn y nenfwd yn golygu mwy o hyblygrwydd o ran y defnydd o’r adeilad.
Er bod elfen o dristwch bod y sgrin yn mynd, mae’r gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen yn obeithiol at y dyfodol.
“Mae e’n werth y byd i ni gael sgrin newydd, ni’n hapus iawn," meddai Cadeirydd y Neuadd, Phoebe Davies.
"Mae’r sgrin newydd yn meddwl more live shows, more cinema shows, felly mwy o arian yn dod mewn a helpu ni yn y dyfodol.”
Y flwyddyn nesaf bydd y neuadd yn dathlu ei chanmlwyddiant, ac mae’r paratoadau eisoes wedi dechrau.
“Bydd yna sioe hopefully a bydd yna sinema screenings trwy’r wythnos o ffilms sy’ di bod yma yn y canrif ddwetha," meddai Tom North.
Ychwanegodd Pheobe Davies: "Os oes gan unrhywun hen lunie, hen fideos, os chi gallu sendio nhw i ni, bydd hwna’n grêt."
Mae’r sinema eisoes wedi ei anrhydeddu a theitl sinema gorau Cymru eleni - ac wrth i’r hen a’r newydd gyd-fyw’n gyfforddus yma, mae pobl Brynaman yn barod am y bennod nesaf.