Gweriniaeth Iwerddon yn pleidleisio i ddewis arlywydd newydd

Catherine Connolly a Heather Humphreys

Fe fydd Gweriniaeth Iwerddon yn pleidleisio ddydd Gwener i ethol arlywydd newydd i’r wlad.

Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor o 07.00 ymlaen wrth i etholwyr ddewis 10fed Arlywydd y wlad, a fydd yn cael ei ethol am gyfnod o saith mlynedd.

Mae’r ras rhwng Catherine Connolly (chwith uchod), ymgeisydd annibynnol sydd ar y chwith yn wleidyddol, a Heather Humphreys (dde uchod), yr ymgeisydd dros Fine Gael a oedd yn weinidog yn y glymblaid ddiwethaf.

Mae’r ddwy yn cystadlu i olynu Michael D. Higgins, sydd wedi bod yn Arlywydd ers 2011.

Ms Connolly yw’r ffefryn clir ar ôl dod i'r brig mewn cyfres o arolygon barn a gynhaliwyd drwy gydol yr ymgyrch.

Mae’r fam i ddau o blant, sy’n 68 oed ac yn dod o Galway, wedi gweithio fel seicolegydd a bargyfreithiwr, ac mae wedi cael cefnogaeth gan Sinn Féin, Na Daonlathaithe Sóisialta, Y Blaid Lafur a phleidiau asgell chwith eraill.

Mae’n siarad yr iaith Wyddeleg ac wedi bod yn llafar ar bynciau megis Palestina ac amddiffyn niwtraliaeth filwrol Iwerddon.

Mae Ms Humphreys yn cyflwyno ei hun fel ymgeisydd sydd ar y “tir canol, o blaid Ewrop, o blaid busnes, a synnwyr cyffredin”.

Mae’r fenyw 64 oed, sydd hefyd yn fam i ddau o blant, yn Bresbyteriad a gafodd ei magu ar fferm wledig ger ffin Gogledd Iwerddon.

Mae mwy na 3.6 miliwn o bobl yn gymwys i bleidleisio, gyda’r gorsafoedd pleidleisio ar agor tan 22.00.

Bydd trydydd enw ar y papur pleidleisio, sef ymgeisydd Fianna Fáil, Jim Gavin, yn ymddangos yno er iddo ddatgan rai wythnosau yn ôl na fyddai’n ymgeisydd.

Heb gynnwys Mr Gavin, dyma’r tro cyntaf ers 1973 i’r cyhoedd yn Iwerddon orfod penderfynu rhwng dau ymgeisydd yn unig.

Bydd cyfrif y pleidleisiau’n dechrau fore Sadwrn, ac mae disgwyl i’r enillydd gael ei gyhoeddi yng Nghastell Dulyn yn ddiweddarach yn y dydd.

Llun gan RTE o Catherine Connolly (chwith) a Heather Humphreys (dde).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.