'Carreg filltir bwysig': Cofio Trychineb Dolgarrog ganrif yn ddiweddarach

Trychineb Argae Dolgarrog

Mae arddangosfa i gofio 100 mlynedd ers Trychineb Argae Dolgarrog yn Nyffryn Conwy yn "garreg filltir bwysig" wrth gofio'r rhai a fu farw.

Bydd Eglwys y Santes Fair, Dolgarrog, yn agor arddangosfa arbennig ddydd Gwener i nodi Canmlwyddiant Trychineb Argae Dolgarrog.

Bu farw 16 o bobl ar 2 Tachwedd 1925 pan chwalodd dau argae, gan achosi llifogydd drwy'r pentref a'r ardaloedd cyfagos.

Ymysg yr 16 fu farw, roedd chwech ohonynt yn blant.

Mae’r arddangosfa yn rhan o raglen gymunedol o ddigwyddiadau sy’n arwain at y prif wasanaeth coffa ar ddydd Sul 2 Tachwedd — union 100 mlynedd ers y trychineb.

'Cofio'

Dywedodd y Parchedig Stuart Elliot, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Gwydr bod cofio'r rhai fu farw yn bwysig i bobl Dolgarrog.

“Mae Dolgarrog 100 yn garreg filltir bwysig i bobl Dolgarrog," meddai.

"Gobeithiwn y bydd yr arddangosfa hon yn cynnig cyfle i’r gymuned a’r ymwelwyr gofio’r rhai a gollodd eu bywydau.”

Fe fydd yr arddangosfa yn adrodd hanes y trychineb a’r cyfnod a’i dilynodd, drwy luniau, dogfennau ac atgofion personol.

Cafodd ei chreu gyda chymorth academyddion o Brifysgolion Caerdydd a Bangor, a fydd hefyd yn bresennol i rannu eu gwybodaeth ac i siarad ag ymwelwyr.

Ochr yn ochr i'r arddangosfa hanesyddol bydd Grŵp Celf Dolgarrog yn cyflwyno arddangosfa gelf sy’n myfyrio ar y ganrif ers y trychineb, a bydd ymwelwyr yn cael eu gwahodd i rannu eu hargraffiadau eu hunain am hanes a chof y pentref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.