Dau gyn-ddisgybl Glantaf sydd wedi eu cyhuddo o droseddau terfysgol i ymddangos yn y llys
12/12/2025Dau gyn-ddisgybl Glantaf sydd wedi eu cyhuddo o droseddau terfysgol i ymddangos yn y llys
Fe fydd dau gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ymddangos yn y llys ddydd Gwener wedi'u cyhuddo o baratoi gweithredoedd o derfysgaeth.
Mae Newyddion S4C wedi datgelu fod Rhys Edwards a Talan Vincent, ill dau yn 18 oed, wedi mynychu’r ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd.
Bydd Mr Edwards a Mr Vincent yn ymddangos yn llys yr Old Bailey fore dydd Gwener ar gyfer gwrandawiad rhagarweiniol.
Mae'r ddau eisoes wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Westminster, ac yn cael eu cadw yn y ddalfa.
Daw’r cyhuddiadau wedi arestiadau a wnaed ar 20 a 21 Tachwedd, meddai Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â’r ysgol a’r awdurdod lleol i ofyn am eu hymateb.