Galw am fwrw ymlaen gyda chynllun i adfywio ardal glan môr Porthcawl

Newyddion S4C

Galw am fwrw ymlaen gyda chynllun i adfywio ardal glan môr Porthcawl

Mae angen bwrw ymlaen gyda chynlluniau i drawsnewid ardal glan môr Porthcawl, yn ôl maer y dref. 

Mae Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn ymgynghori ar y cynlluniau, sy'n cynnwys codi cartrefi ar hen safle ffair adnabyddus traeth Coney, a Lido newydd i'r dref.

Ond mae rhai yn poeni am y sefyllfa parcio, ac effaith yr adfywio ar weddill y dref.

Mae'r cynlluniau, sydd wedi eu datgelu i'r cyhoedd gan Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnig tipyn o newid i'r hyn sydd yno'n barod. 

Y bwriad yw adfywio tref glan môr sydd wedi gweld dyddiau gwell.

Gyda ffair adnabyddus traeth Coney bellach wedi cau, ma 'na angen i roi bywyd newydd i'r safle, a'r buddsoddiad hwnnw gwerth miliynau o bunnau yn ôl yr awdurdod lleol.

"Mae cyflwr yr adeiladau wedi dirywio dros y blynyddoedd," meddai Delyth Webb, rheolwr adfywio strategol Cyngor Sir Pen-y-bont.

"Mae 'na nifer o adeiladau mawr yma sydd wedi adfeilio, ac mae angen pwmpio llawer o arian mewn i'r ardal. Mae'r teulu sydd wedi bod yn berchen ar y ffair am flynyddoedd, dy'n nhw ddim eisiau rhedeg ffair rhagor. 

"Dyw'r adnodd yna ddim yn cael ei ddefnyddio yn yr un ffordd ag odd e. Felly mae angen newid."

Image
Rory Pitman
Rory Pitman

I fusnes bwyd a maeth A-Head of the Game, sydd eisoes wedi agor safle ym Mhorthcawl, mae'n gyfle i ddenu rhagor o bobol i'r dref.

Yn ôl perchennog y cwmni, Rory Pitman, mae angen bwrw mlaen gyda'r cynllun adfywio. 

"Ni angen datblygu, ni angen dod a mwy o bethau yma, er mwyn bod pobl yn gallu gweld ar social media. Iddyn nhw wario eu harian mewn lle fel Porthcawl, ni angen datblygu e, a dwi'n credu bod y cynlluniau yma yn arbennig," meddai.

Mae'r cynlluniau wedi cael eu cyhoeddi a'u hail gyhoeddi dros y blynyddoedd, wrth i Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr ymgynghori a chymryd barn pobl leol. 

Mae'r cynlluniau diweddaraf yn cynnwys Lido newydd i'r dref, a hynny yn dilyn ymateb y cyhoedd. 

Fe fydd ffair traeth Coney, sydd wedi cynnig croeso i nifer o dripiau ysgol Sul dros y blynyddoedd yn diflannu, wedi iddi gau yn gynharach eleni. Y bwriad yw trawsnewid y lleoliad hwnnw i fod yn gyfuniad o ardal hamdden, adnoddau i fusnesau a chartrefi newydd.

Ond wedi blynyddoedd o addewidion a chyfaddawdu, mae maer tref Porthcawl, Elen Jones, yn credu bod hi'n hen bryd i'r cynlluniau yma weld golau dydd.

Image
Maer Porthcawl, Elen Jones
Maer Porthcawl, Elen Jones

"Waw, mae'r cynlluniau yma. Mae pobol o'r Rhyl a'r Barri yn dweud 'pam na gewn ni beth mae Porthcawl yn ei gael?' Ond mae angen i ni nawr sicrhau bod hwn yn digwydd, ac mae pobol yn gofyn pryd?" meddai.

"Maen nhw eisiau mynd amdani, ac wedi aros digon, ac mae'r amser yma nawr i Borthcawl fynd am y goleuni."

Mae'r dynluniadau yn rhai sy'n dal y llygad, ond i rai fel Richard Cleaves sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac oedd mewn sesiwn ymgynghori ym Mhorthcawl yn ddiweddar, mae 'na bryderon, gan gynnwys darpariaeth parcio.

"Ar hyn o bryd mae'r ffordd trwy'r dre yn llawn dop o ran parcio. Dyw'r siopau ddim ar gau, mae'n fywiog trwy'r flwyddyn, ac mae pobol yn dod i mewn i'r dre. Os na fydden nhw'n gallu parcio a fyddan nhw'n dal i ddod?" meddai.

"Mae'r cyngor wedi cynllunio nifer o siopau newydd ar y promenad, ond a fydd siopau just yn symud o un lle i'r llall?"

Ar hyn o bryd mae'r cynlluniau yn y cyfnod ymgynghori cyn i gais cynllunio gael ei gynnig i'r cyngor sir.

I sawl un mae Porthcawl yn dod ag atgofion melys o ddyddiau braf ar un o draethau poblogaidd de Cymru - cynnig yr un profiad dros y degawdau nesaf yw'r her i'r dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.