Bachgen bach o Wynedd yn rhoi ei bres poced i'r digartref
Mae bachgen pump oed o Wynedd wedi rhoi ei bres poced i blant a phobl ifanc digartref yn yr ardal i gael anrhegion Nadolig.
Fe benderfynodd Gwion, a'i fam Ceri Williams o'r Felinheli i roi y rhodd i elusen Gisda, sydd yn cefnogi pobl ifanc digartref yng Ngwynedd.
"Ma' Gwion yn licio rhoi bob tro, mae o'n rhannu sweets, ma'n licio rhannu," meddai ei fam wrth Newyddion S4C.
"O'dd genna ni 'chydig bach o geinioga ar y top yn y gegin a dyma fo'n deud 'Dwi isio rhoi hwn i Sion Corn' a dyma fi'n gofyn pam ei fod o isio rhoi i Sion Corn? A be oedd o'dd fod o isio rhoi i blant bach sydd ddim yn cael dim byd."
Fe roddodd Ceri neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud fod Gwion eisiau rhannu ei bres ac fe wnaeth rhai awgrymu Gisda.
"O'n i'n arfer gweithio i social services blynyddoedd yn ôl so o'n i'n gwbo 'Ia, Gisda... it's got to be Gisda' achos ma' 'na lot o blant ddim efo dim byd yn fa'na does.
"Ma' lot o bobl yn deud a ddim yn neud, so o'dd hynna'n un peth. Os oedd Gwion 'di deud, o'dd rhaid dilyn o drwadd, a gan bo' fi wedi gweithio efo plant bach sydd hefo dim byd, o'n i'n meddwl pam ddim rhoid o i blant bach sydd mewn cartrefi, sydd ddim efo rhieni, a sydd mewn gwaeth lle na ni?"
Roedd Gisda wedi gwirioni gyda'r haelioni yn ôl Ceri.
"Oeddan nhw yn meddwl bod o'n rili, rili neis bod Gwion isio rhoi ei bres bach o iddyn nhw.
"Yn amlwg na'th Gwion ddim dewis Gisda, dydi Gwion ddim cweit yn dalld, ond munud nesh i ddeud bod nhw'n blant bach sydd ddim efo dim byd, o'dd o wedi penderfynu nhw hefyd."
Fe siaradodd Ceri gyda Gisda i weld beth fyddai'r ffordd orau o roi'r rhodd iddyn nhw, ac fe wnaethon nhw benderfynu rhoi'r arian a gafodd ei gasglu gan Gwion.
"Oeddan ni rhwng derbyn y rhodd o arian ta bod Gwion yn dod i fewn efo 'chydig o bresanta am y pres a dyma ddewis yr arian," meddai Ceri.
"Ma' nhw'n gallu neud mwy o fodd efo pres na jyst ambell i bresant."
