Ysgol Bro Myrddin: Bachgen 17 oed yn parhau yn y ddalfa

Ysgol Bro Myrddin: Bachgen 17 oed yn parhau yn y ddalfa

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi diweddariad am y digwyddiad yn Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin, ddydd Mercher.

Mewn datganiad brynhawn dydd Iau, dywedodd swyddogion bod y bachgen 17 oed o Sir Gaerfyrddin gafodd ei arestio ar amheuaeth o fygwth lladd yn parhau yn y ddalfa.

Nid yw'r bachgen sydd wedi ei arestio yn ddisgybl yn yr ysgol ac ni chafodd ei arestio ar dir yr ysgol meddai'r heddlu.

Cafodd yr ysgol ei chloi yn sydyn a dirybudd ar gais yr heddlu yn dilyn y bygythiad ddydd Mercher, ond ni chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.

Gadawodd y disgyblion yr ysgol yn ddiogel yn ddiweddarach.

Mae'r ysgol wedi bod ar agor fel arfer ddydd Iau, ond bydd presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal i roi tawelwch meddwl a chefnogaeth i ddisgyblion a staff, meddai Heddlu Dyfed Powys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.