‘Arlunydd rhyfeddol’: Yr artist Iwan Gwyn Parry wedi marw'n 55 oed
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r arlunydd o Fôn, Iwan Gwyn Parry, sydd wedi marw yn 55 oed.
Roedd Mr Parry yn adnabyddus yn y byd celf am ei ddarluniau o’r arfordir a’r môr, ac wedi arddangos ei waith mewn orielau ledled Cymru a thu hwnt.
Cafodd ei eni yng Nghaergybi yn 1970, ac ar ôl astudio celf yn y Chelsea School of Art and Design yn Llundain, daeth yn ôl i Gymru i fyw a gweithio yn Rachub, ger Bethesda.
Daeth yn adnabyddus am ei baentiadau o Fôr Iwerddon, gyda’i waith yn cael ei arddangos yn Llundain a Dulyn.
Fe weithiodd hefyd fel darlithydd celf yng Ngholeg Menai am gyfnod.
Roedd Mr Parry wedi siarad yn gyhoeddus am fyw gydag anorecsia yn y blynyddoedd diwethaf, ar ôl datgelu ei fod wedi bod yn cuddio ei anhwylderau bwyta o’i ffrindiau a'i gyd-weithwyr ers tri degawd.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd llefarydd ar ran Oriel Ffin y Parc yn Llandudno ei fod yn berson “llawn caredigrwydd ac anogaeth y byddai’n ei rannu gydag eraill yn ddi-baid.
“Daethom i’w adnabod yn dda ers iddo ddechrau arddangos ei waith gyda ni yn 2021. Daethom hefyd i’w hoffi’n fawr iawn.
“Roedd ei iechyd wedi bod yn fregus ers amser ond roedd wastad yn benderfynol a llawn gobaith. Fe wnaeth ei garedigrwydd a’i ysbryd roi presenoldeb arbennig iddo. Roedd yn ymddangos yn llawer ieuengach nag yr oedd.
“Nid oedd ei freuder corfforol yn cyfyngu ar yr optimistiaeth a dygnwch yr oedd yn wynebu’r byd gydag o.
“Fe fydd pawb oedd yn ei ystyried fel ffrind yn ei golli.”
Dywedodd Oriel Celf yng Nghaerdydd yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth: “Gyda thristwch mawr y clywsom fod Iwan Gwyn Parry wedi marw.
“Person ac arlunydd rhyfeddol. Mae ein meddyliau a chydymdeimladau gyda'i deulu yn ystod yr amser anodd hwn.”
