Gorchuddion wyneb i'w gwisgo ar bob safle bwrdd iechyd yn y de

Brechlyn Covid-19

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw'r diweddaraf i ofyn i ymwelwyr a staff mewn ardaloedd clinigol ac ardaloedd sy'n wynebu cleifion i wisgo mygydau ar eu hwynebau mewn ymgais i atal firysau rhag ymledu.

Mae nifer yr achosion o firysau mewn ysbytai a'r gymuned ehangach yn cynyddu ar gyfradd gyson meddai'r bwrdd iechyd. 

Mae byrddau iechyd Aneurin Bevan a Chwm Taf Morgannwg wedi cyflwyno'r un mesur ar eu safleoedd yn gynharach ym mis Rhagfyr.

O ddydd Iau ymlaen, bydd yn rhaid i bob aelod o staff wisgo gorchudd pan fyddant mewn ardaloedd clinigol neu'n gweithio â chleifion. 

Bydd gofyn i ymwelwyr hefyd wisgo gorchudd mewn ardaloedd clinigol, gan gynnwys apwyntiadau ar safleoedd ysbytyai a safleoedd cymunedol.

Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol  Hywel Dda: "Rydym yn gweld nifer cynyddol o bobl â firysau ffliw a firysau anadlol sydd angen ein gofal ac mae angen cymryd y cam rhagweithiol hwn i gyfyngu ar ledaeniad firysau anadlol yn ein gwasanaethau a'n safleoedd. 

"Mae'r newid hwn yn effeithiol ar unwaith a bydd ein cydweithwyr Atal Heintiau yn adolygu'r sefyllfa yn rheolaidd.

"Hoffwn hefyd atgoffa ymwelwyr mai dim ond os ydych chi'n teimlo'n iach y dylech ddod i'n safleoedd, ac aros 48 awr ar ôl i chi fod yn rhydd o symptomau tebyg i'r ffliw ac annwyd, neu symptomau salwch a dolur rhydd. 

"Nid ydym eto mewn sefyllfa lle mae angen i ni gyfyngu ar ymweliadau â wardiau, ond gall hyn newid ar fyr rybudd os bydd lefel y firysau anadlol yn cynyddu."

Bydd gorchuddion wyneb ar gael ym mhob mynediad ac mewn ardaloedd clinigol ar safleoedd y bwrdd iechyd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.