Dŵr Cymru: Cynnydd o 60% mewn digwyddiadau carthffosiaeth mewn tair blynedd
Mae adroddiad newydd wedi dangos bod Dŵr Cymru yn gyfrifol am gynnydd o 60% mewn digwyddiadau carthffosiaeth dros gyfnod o dair blynedd.
Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyhoeddi ei adroddiad perfformiad amgylcheddol blynyddol ar gyfer Dŵr Cymru ddydd Iau.
Yn ôl yr adroddiad gan y corff sy’n gwarchod amgylchedd Cymru, roedd nifer y digwyddiadau carthffosiaeth a gafodd eu cofnodi yn ystod cyfnod yr adolygiad diweddaraf wedi cynyddu 60% – o 83 yn 2021, i 132 yn 2024.
Dyma'r bumed flwyddyn yn olynol i nifer y digwyddiadau carthffosiaeth godi, meddai'r adroddiad.
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn "siomedig" gyda'r adolygiad a'u bod yn bwriadu buddsoddi £2.5bn yn yr amgylchedd dros y bum mlynedd nesaf.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth CNC gyhoeddi fod Dŵr Cymru yn gyfrifol am 155 o o ddigwyddiadau llygredd carthffosiaeth a chyflenwadau dŵr yn 2024.
Roedd y digwyddiadau yma yn cynnwys chwe digwyddiad difrifol a 149 o ddigwyddiadau a gafodd lai o effaith, sef y nifer uchaf o ddigwyddiadau a gofnodwyd gan y cwmni mewn 10 mlynedd.
Fodd bynnag, dywedodd yr adroddiad bod Dŵr Cymru wedi hunan-gofnodi mwy o ddigwyddiadau.
Yn ystod 2024, fe wnaeth y cwmni hunan gofnodi 74% o ddigwyddiadau - cynnydd o 6% ers 2022.
Ond mae'r ffigwr yma yn parhau i fod islaw'r targed o 80%.
'Angen newid systemig'
Dywedodd CNC yn yr adroddiad eu bod yn disgwyl i Dŵr Cymru fynd i'r afael â'r cynnydd mewn digwyddiadau carthffosiaeth.
"Rydym yn disgwyl i Dŵr Cymru gymryd cyfrifoldeb am y cynnydd hwn yn nifer y digwyddiadau llygredd a gwneud ymdrech ar y cyd i ganolbwyntio eu mentrau i wrthdroi’r duedd hon sy’n dangos dirywiad," meddai'r corff amgylcheddol.
Ychwanegodd eu canfyddiadau: "Rydym yn disgwyl i Dŵr Cymru ddefnyddio arferion gorau o bob rhan o’r sector i leihau llygredd yn barhaus a gweithio tuag at y nod hirdymor sef dim digwyddiadau o gwbl."
Mae'r adroddiad yn cadarnhau y bydd Dŵr Cymru yn aros ar sgôr o ddwy seren "angen i’r cwmni wella" am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Cafodd perfformiad cwmni Hafren Dyfrdwy, sef y cyflenwr gwasanaethau dŵr yfed a dŵr gwastraff i rannau o'r gogledd-ddwyrain a'r chanolbarth Cymru, hefyd ei adolygu, ond nid yw'n cael ei sgorio gan fod yn gweithredu mewn ardal fach o'r wlad.
Yn ystod 2024, dywedodd CNC fod Hafren Dyfrdwy wedi llwyddo i gynnal ei record o ddim digwyddiadau llygredd difrifol ers i’r cwmni gael ei ffurfio yn 2018.
Ond cynyddodd nifer y digwyddiadau carthffosiaeth a chyflenwadau dŵr effaith isel yr oedd yn gyfrifol amdanynt o bedwar i bump, meddai.
Dywedodd Becky Favager, pennaeth rheoleiddio a thrwyddedu CNC, bod yn rhaid i Ddŵr Cymru "ysgogi newid systemig".
"Er bod Dŵr Cymru wedi dangos gwelliannau mewn rhai meysydd, nid yw’n dderbyniol nad ydyn nhw wedi gallu mynd i’r afael â gwir achos eu digwyddiadau llygredd sy’n cynyddu o flwyddyn i flwyddyn," meddai.
"O ganlyniad i’r methiannau hyn mewn perfformiad, mae CNC wedi dilyn a chwblhau nifer o erlyniadau yn erbyn Dŵr Cymru eleni – gan gynnwys troseddau yn ymwneud â digwyddiadau llygredd difrifol a rhwymedigaethau hunanfonitro.
Ychwanegodd: "Yn y blynyddoedd nesaf, rydym yn disgwyl y bydd y cwmni’n cyflwyno rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol a fydd yn gweld lefelau a chamau gweithredu a buddsoddi record yn yr amgylchedd, gan dargedu ardaloedd lle mae eu gweithrediadau’n achosi’r niwed mwyaf.
"Er y byddwn yn parhau i fynnu bod ei berfformiad yn gwella, rhaid i’r cwmni ysgogi’r newid systemig sydd ei angen er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau amgylcheddol."
'Siomedig'
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Rydym yn siomedig gyda’r asesiad ac yn cydnabod nad yw ein perfformiad lle dymunwn iddo fod.
"Mae Dŵr Cymru yn cymryd ei gyfrifoldeb amgylcheddol o ddifrif, rydym yn ymddiheuro am unrhyw niwed amgylcheddol yr ydym wedi’i achosi ac yn gweithio’n ddiflino i gyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen mewn amgylchiadau heriol.
"Mae newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol yn cael mwy o effaith ar ein seilwaith ac yn herio’r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau.
"Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn gosod nifer fawr o fonitorau ar ein rhwydweithiau yn y blynyddoedd diwethaf i helpu adnabod materion sydd angen eu trwsio’n fwy effeithlon, sydd wedi arwain at gynnydd yn nifer yr achosion o lygredd."
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae gennym y nifer ail isaf o achosion llygredd cyffredinol yn y DU, ond rydym yn gwybod bod angen newid sylweddol arnom i gwrdd a disgwyliadau cwsmeriaid sy’n cynyddu, ac i sicrhau gwydnwch hirdymor yn wyneb newid hinsawdd a heriau eraill.
"Mae gwaith eisoes ar y gweill i fynd i’r afael â’r meysydd hyn, gyda’n cynllun buddsoddi mwyaf erioed ar gyfer 2025-30 sy’n cynnwys cynlluniau i fuddsoddi £4bn, gyda £2.5bn o’r swm hwnnw i wella’r amgylchedd."