Y Gymraeg: Pryder am hawliau menywod mewn carchardai y tu allan i Gymru
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud ei bod yn pryderu am hawliau menywod i siarad Cymraeg mewn carchardai.
Daw ei sylwadau wedi i rai cyn-garcharorion ddweud bod staff yng ngharchar mwyaf Cymru i ddynion yn gorfodi siaradwyr Cymraeg i droi i'r Saesneg.
Dywedodd ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd a Lerpwl bod y carcharorion wedi dod o dan bwysau i siarad Saesneg yng ngharchar y Berwyn.
Wrth drafod y pwnc, dywedodd Efa Gruffudd Jones wrth raglen Newyddion S4C bod angen ystyried hawliau menywod i siarad Cymraeg yn y carchar yn ogystal.
Roedd yn “peri pryder” nad oedd “yna garchar i fenywod yng Nghymru o gwbl”.
“Mae yna gwestiynau i’w gofyn am y driniaeth mae merched ei gael mewn carchardai y tu hwnt i Gymru,” meddai.
“Fe ddylen nhw gael yr un hawliau i ddefnyddio a chael mynediad at ddeunyddiau yn Gymraeg, ond rydyn ni’n gwybod nad ydi hynny yn digwydd yn bob achos.”
Roedd hi’n bwriadu cwrdd â Charchar y Berwyn fis nesaf er mwyn mynegi ei phryderon am yr adroddiad newydd, meddai.
“Mae gan y carchar gynllun iaith newydd - fydda i am wybod ydi hwnnw yn cael ei roi ar waith,” meddai.
“Mae’n debyg nad yw e. Fe alla i wedyn gynnig cynnal ymchwiliad statudol.”
'Teilwng'
Yn ôl y cyfrif diwethaf, roedd yna 84 o garcharorion oedd yn medru'r Gymraeg yn y carchar yn Wrecsam y llynedd.
Ond yn ôl tystiolaeth rhai o'r rheini does yna ddim ymdrech i'w cadw mewn adrannau gyda'i gilydd.
Mae ymchwil Dr Robert Jones a Dr Gregory Davies yn honni "ei bod yn amlwg nad yw'r iaith Gymraeg yn cael ei thrin ar sail cydraddoldeb gyda'r Saesneg yn y Berwyn".
Maen nhw hefyd yn dweud bod carcharorion sy'n siarad Cymraeg yn dweud eu bod nhw wedi gweld oedi mawr wrth yrru gohebiaeth yn y Gymraeg.
Dywedodd y cyn-AS Elfyn Llwyd y dylai Senedd Cymru a Thŷ’r Cyffredin “edrych ar beth sy’n mynd ymlaen yn Berwyn”.
“Mae angen sicrhau bod yna wasanaeth teilwng i rai sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yno,” meddai.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Carchar y Berwyn eu bod yn croesawu'r defnydd o'r iaith gan garcharorion, ymwelwyr a staff, a'u bod yn cymryd pob cwyn o ddifri.
Ar ben hynny mae'r gwasanaeth prawf a charchardai, yn ôl eu cynllun iaith, wedi'u hymrwymo i hybu hawliau carcharorion sy'n siarad Cymraeg, medden nhw.